Iechyd yr Ymennydd a Lleihau Risg Dementia – Sut allwn ni effeithio ar newid?
Gwybodaeth am y digwyddiad
Daeth y digwyddiad i ben
- Dyddiad
- Amser
- -
- Lleoliad
- Ar-lein
Ynglŷn â'r digwyddiad hwn
Mae ymwybyddiaeth gyhoeddus gyfyngedig o’r ffactorau risg sy’n cyfrannu at ddementia, er gwaethaf tystiolaeth gynyddol bod tua 45% o achosion yn gysylltiedig â ffactorau y gellir eu newid – fel colli clyw, ysmygu, anweithgarwch ac iechyd cardiofasgwlaidd. Mae atal yn bosibl ac yn bwerus. Mae angen allgymorth wedi’i dargedu ar gyfer cymunedau amrywiol, ac ar yr un pryd mynd i’r afael â stigma ac ofn ynghylch cael diagnosis. Er bod dementia yn un o’r heriau iechyd mwyaf sy’n ein hwynebu, mae’n parhau i fod yn isel ar yr agenda gyhoeddus – gan danlinellu’r angen am weithredu brys a theg a sy’n canolbwyntio ar atal ar draws y system.
Canlyniadau Dysgu’r weminar hon
- Gwybodaeth am 14 ffactor risg y gellir eu newid a allai, ar lefel y boblogaeth, leihau achosion dementia yn y dyfodol hyd at 45%
- Nid yw byth yn rhy gynnar a byth yn rhy hwyr i gymryd camau i wella iechyd yr ymennydd
- Gwybodaeth am Fframwaith Iechyd a Gofal Seiliedig ar Atal Cymru
- Gwybodaeth am waith sy’n digwydd gyda’r rhaglen ddementia genedlaethol ynghylch iechyd yr ymennydd a lleihau’r risg o ddementia
- Enghreifftiau o wasanaethau/ymyriadau iechyd yr ymennydd/lleihau risg dementia sy’n cael eu darparu yng Nghymru
Fideo digwyddiad
Cyflwyniad digwyddiad
Dr Amrita Jesurasa
PDF, 1MB
Llawrlwytho PDF - Dr Amrita Jesurasa (1 MB)
LlawrlwythoDr Natalie Elliott
PDF, 1MB
Llawrlwytho PDF - Dr Natalie Elliott (1 MB)
LlawrlwythoAndrew Rogers
PDF, 1MB
Llawrlwytho PDF - Andrew Rogers (1 MB)
LlawrlwythoGwerthuso digwyddiad