Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi Adnoddau Iechyd Newydd i Rieni – i gefnogi Teuluoedd ledled Cymru
Gwybodaeth am y digwyddiad
Daeth y digwyddiad i ben
- Dyddiad
- Amser
- -
- Lleoliad
- Ar-lein
Ynglŷn â'r digwyddiad hwn
Mae bob plentyn yng Nghymru yn haeddu’r dechrau gorau i fywyd. Er mwyn helpu teuluoedd i deimlo’n hyderus ac wedi’u cefnogi, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, ar ran Llywodraeth Cymru, wedi cyhoeddi’r ddau adnodd olaf yn ein cyfres genedlaethol o wybodaeth ar fagu plant:
- 2 oed i ddechrau’r ysgol
- 4 i 7 oed
Mae’r llyfrynnau hyn yn adeiladu ar y llyfrynnau Eich Beichiogrwydd a’r Enedigaeth a Newydd-anedig hyd at 2 oed, i greu cyfres gyflawn o bedwar adnodd am y blynyddoedd cynnar sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer rhieni. Datblygwyd yr adnoddau gyda gweithwyr iechyd proffesiynol, rhieni ac arbenigwyr polisi er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni anghenion teuluoedd ac yn adlewyrchu arferion gorau.
Tynnodd y weminar hon yn dangos bod ymgorffori’r adnoddau hyn yn eich rhaglenni a’ch gwasanaethau a’u cynnig i deuluoedd yn eich helpu i greu cynnig cyson a dibynadwy i rieni ledled Cymru. Bydd hyn, yn ei dro, yn helpu i leihau camwybodaeth ac yn cefnogi teuluoedd i roi’r dechrau gorau i’w plant. Mae’r dull hwn yn cyd-fynd â strategaethau cenedlaethol ac yn cryfhau ein heffaith ar y cyd.
Fideo digwyddiad
Cyflwyniad digwyddiad
Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi Adnoddau Iechyd Newydd i Rieni - Cefnogi Teuluoedd ledled Cymru
PDF, 2MB
Llawrlwytho PDF - Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi Adnoddau Iechyd Newydd i Rieni - Cefnogi Teuluoedd ledled Cymru (2 MB)
LlawrlwythoGwerthuso digwyddiad