Neidio i'r cynnwys
Loading Events

Hyder, ymlyniad a heriau hunanynysu: mewnwelediadau ymddygiad gan gysylltiadau achosion COVID-19 yn dechrau ac yn cwblhau hunanynysu yng Nghymru

Gwybodaeth am y digwyddiad

Daeth y digwyddiad i ben

Dyddiad
Amser
-
Lleoliad
Ar-lein
Hyder, ymlyniad a heriau hunanynysu: mewnwelediadau ymddygiad gan gysylltiadau achosion COVID-19 yn dechrau ac yn cwblhau hunanynysu yng Nghymru

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Mae hunanynysu yn ymyrraeth allweddol i atal lledaeniad Covid-19, ond gall fod yn heriol i’r rheiny y gofynnir iddynt hunanynysu.  Mae Is-adran Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn gwneud ymchwil i ddeall yr heriau y mae cysylltiadau achosion COVID-19 yng Nghymru yn eu profi, trwy ddau brosiect ymchwil: Arolwg Neges Destun Ynghylch Hyder mewn Ymlyniad (ACTS) – arolwg SMS dyddiol o hyder cysylltiadau i ymlynu wrth ganllawiau hunanynysu; ac Arolwg Mewnwelediadau Ymddygiadol Ynghylch Ymlyniad Cysylltiadau wrth Hunanynysu (CABINS) – astudiaeth dulliau cymysg yn cynnwys arolwg dros y ffôn a grwpiau ffocws ar-lein.

Yn y weminar hon, rhannodd Dr Richard Kyle fewnwelediadau ymddygiadol o’r ddwy astudiaeth arloesol hon ac yn trafod sut mae’r canfyddiadau wedi llunio cyfathrebu ac ymyriadau iechyd y cyhoedd i gefnogi pobl sydd yn hunanynysu ar draws Cymru.

Fideo digwyddiad