Neidio i'r cynnwys
Loading Events

Hapus: Sgwrs Genedlaethol ar Lesiant Meddyliol

Gwybodaeth am y digwyddiad

Daeth y digwyddiad i ben

Dyddiad
Amser
-
Lleoliad
Ar-lein
Hapus: Sgwrs Genedlaethol ar Lesiant Meddyliol

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Mae arolygon cenedlaethol yn dangos bod llesiant meddwl oedolion yng Nghymru wedi dirywio yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac rydym yn gweld cyfraddau uchel parhaus o oryder hunangofnodedig.

Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld cynnydd mawr o ran pobl yn siarad yn fwy agored am heriau iechyd meddwl a salwch. Rydym am adeiladu ar hyn i gael pobl i siarad am yr hyn sy’n eu cefnogi i aros yn iach yn feddyliol.

Er bod pobl yn gwybod ei bod yn bwysig gofalu am ein llesiant, mae arolygon a gynhelir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod lefelau is o ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n gweithio i gynnal llesiant meddwl cadarnhaol.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a’n partneriaid wedi lansio Hapus, sgwrs genedlaethol ar lesiant meddwl. Nod Hapus yw cael pobl i siarad am yr hyn sy’n helpu i amddiffyn a gwella llesiant meddwl; beth sy’n ein helpu i deimlo’n dda a gweithredu’n dda.

Roedd y weminar hon yn rhoi trosolwg byr o lesiant meddwl a Sgwrs Genedlaethol Hapus.  Rhoddodd wybodaeth am ein Hasesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb, a’r camau yr ydym yn eu cymryd i liniaru effeithiau negyddol.  Buom yn siarad am rôl Cefnogwyr Hapus, yn gwahodd sefydliadau i ymgeisio ac yn amlinellu manteision dod yn Gefnogwr Hapus.

Canlyniadau Dysgu:

  • Datblygu dealltwriaeth o les meddyliol a’r pethau y gall pobl eu gwneud i’w ddiogelu a’i hyrwyddo.
  • Byddwch yn ymwybodol o nodau, amcanion a dull ymgyrch Hapus.
  • Deall rôl ‘Cefnogwr Hapus’ a sut i wneud cais.

Fideo digwyddiad

Cyflwyniad digwyddiad

Hapus - Ar gyfer ein lles meddyliol

PDF, 2MB

Llawrlwytho PDF - Hapus - Ar gyfer ein lles meddyliol (2 MB)

Llawrlwytho

Gwerthuso digwyddiad