Gwneud y gorau o gyfleoedd ar gyfer llesiant meddyliol ar draws polisïau a gwasanaethau gan ddefnyddio Asesiad o’r Effaith ar Lesiant Meddyliol
Gwybodaeth am y digwyddiad
Daeth y digwyddiad i ben
- Dyddiad
- Amser
- -
- Lleoliad
- Ar-lein
Ynglŷn â'r digwyddiad hwn
Roedd y dosbarth meistr hwn yn canolbwyntio ar y broses o Asesu’r Effaith ar Les Meddyliol (MWIA), beth ydyw, a sut y gellir ei ddefnyddio i hyrwyddo a diogelu lles meddwl ac ysgogi Iechyd Meddwl a Lles ym mhob dull Polisi. Roedd y gweminar yn cynnwys astudiaethau achos o MWIAs ac yn rhoi cyfleoedd i’r cyfranogwyr ofyn cwestiynau, trafod y dull gweithredu a chyfrannu at gynlluniau ar gyfer datblygu MWIA yn y dyfodol.
Canlyniadau Dysgu
- Deall y ffactorau sy’n hyrwyddo ac yn diogelu llesiant meddyliol a sut y gallant gael eu dylanwadu gan wahanol bolisïau, sectorau a lleoliadau.
- Gwybod sut mae Asesiad o’r Effaith ar Lesiant Meddyliol wedi’i gymhwyso i wahanol sefyllfaoedd sefydliadol a pholisi.
- Deall y canlyniadau a’r buddion o ddefnyddio Asesiad o’r Effaith ar Lesiant Meddyliol.
- Gwybod y sgiliau, yr offer a’r wybodaeth sydd eu hangen i ddefnyddio Asesiad o’r Effaith ar Lesiant Meddyliol.
- Cyflwyno’r achos dros ddull ‘Iechyd a Llesiant Meddyliol ym mhob Polisi’ fel rhan o wneud penderfyniadau a deall sut mae hyn yn cyd-fynd â chyd-destun polisi Cymru, er enghraifft, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, Dangosyddion Llesiant Cenedlaethol a thu hwnt.
Y dosbarth meistr rhagarweiniol rhyngweithiol hwn yw’r cyntaf yng nghyfres o ddigwyddiadau Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n gysylltiedig â llesiant meddyliol yr hydref hwn.
Fideo digwyddiad
Cyflwyniad digwyddiad
Asesiad o'r Effaith ar Lesiant Meddyliol - Dosbarth Meistr
PDF, 4MB
Llawrlwytho PDF - Asesiad o'r Effaith ar Lesiant Meddyliol - Dosbarth Meistr (4 MB)
LlawrlwythoGwerthuso digwyddiad