Gwella gweithio mewn partneriaeth mewn Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
Gwybodaeth am y digwyddiad
Daeth y digwyddiad i ben
- Dyddiad
- Amser
- -
- Lleoliad
- Ar-lein
Ynglŷn â'r digwyddiad hwn
Mae cydweithredu â phartneriaid amrywiol yn hanfodol i arweinwyr ac ymarferwyr Iechyd Cyhoeddus er mwyn mynd i’r afael â phenderfynyddion ehangach iechyd. O fewn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) yn sefydliadau allweddol ar gyfer gweithio mewn partneriaeth yng Nghymru. Ond mae astudiaethau’n dangos yn gyson fod partneriaethau strategol yn methu dod i gytundeb ar weithredu ar y cyd sy’n fuddiol i bob un ohonynt.
Archwiliodd prosiect ymchwil estynedig gyda BGC y potensial i drawsnewid perthnasoedd y bartneriaeth. Yn y gweminar hwn, mae Dr Elizabeth Woodcock yn rhoi golwg i ni i’r tensiynau rhwng arbenigo a deialog, hierarchaeth a chyfrifoldeb ar y cyd, ac effeithlonrwydd a chynwysoldeb.
Ymunodd aelodau’r BGC ac eraill â’r ymchwilydd mewn ymchwil weithredol, sef dull cyfranogol ar gyfer dysgu ar y cyd. Mae’r canfyddiadau’n cynnig dulliau profedig i Iechyd Cyhoeddus a chynrychiolwyr eraill BGCau i drafod y tensiynau a saernïo diwylliant partneriaeth cydweithredol.
Caiff cyflwyniad Elizabeth ei gyflwyno gan Kevin Griffiths, Pennaeth Partneriaethau Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, sy’n esbonio pwysigrwydd gweithio mewn partneriaethau strategol yng Nghymru.
Fideo digwyddiad
Cyflwyniad digwyddiad
Gwella gweithio mewn partneriaeth mewn Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
PDF, 1MB
Llawrlwytho PDF - Gwella gweithio mewn partneriaeth mewn Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (1 MB)
LlawrlwythoBeth yw eich profiad chi o bartneriaethau?
, 19KB
Llawrlwytho - Beth yw eich profiad chi o bartneriaethau? (19 KB)
LlawrlwythoBeth yw eich profiad chi o ddiwylliant partneriaethau?
, 18KB
Llawrlwytho - Beth yw eich profiad chi o ddiwylliant partneriaethau? (18 KB)
LlawrlwythoGwerthuso digwyddiad