Pwysig

Oherwydd problem fyd-eang gyda Microsoft 365 rydym yn profi oedi wrth dderbyn ac ymateb i e-byst ac ymholiadau ar-lein, yn ogystal ag wrth anfon rhai canlyniadau.

Fodd bynnag, nid yw hyn yn effeithio ar ein gwasanaethau sgrinio. Os oes gennych apwyntiad sgrinio heddiw, dylech fynd iddo fel arfer.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau brys am apwyntiad sydd ar y gweill, cysylltwch â’r tîm perthnasol dros y ffôn.

Neidio i'r cynnwys
Loading Events

Oedi wrth dderbyn ac ymateb i e-byst ac ymholiadau ar-lein

Gwybodaeth am y digwyddiad

Dyddiad
  • Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae allgáu digidol yn cael ei gydnabod fwyfwy fel ffactor sy’n sbarduno anghydraddoldebau iechyd, ond mae llawer o sefydliadau’n wynebu heriau o ran nodi, deall a mynd i’r afael â’i effaith. Yn y weminar hon, bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhannu canfyddiadau o brosiect a ariannwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) sy’n archwilio’r berthynas rhwng allgáu digidol ac anghydraddoldebau iechyd. Cyfunodd y prosiect adolygiad tystiolaeth, cyfweliadau â rhanddeiliaid, a mewnwelediadau gan Banel Cynghori â phrofiad…

Mae allgáu digidol yn cael ei gydnabod fwyfwy fel ffactor sy’n sbarduno anghydraddoldebau iechyd, ond mae llawer o sefydliadau’n wynebu heriau o ran nodi, deall a mynd i’r afael â’i effaith. Yn y weminar hon, bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhannu canfyddiadau o brosiect a ariannwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) sy’n archwilio’r berthynas rhwng allgáu digidol ac anghydraddoldebau iechyd. Cyfunodd y prosiect adolygiad tystiolaeth, cyfweliadau â rhanddeiliaid, a mewnwelediadau gan Banel Cynghori â phrofiad rheng flaen o allgáu digidol.

Bydd y weminar yn cyflwyno cyfres o adnoddau a gynhyrchwyd ar y cyd a gynlluniwyd i gefnogi ymarferwyr, darparwyr gwasanaethau a llunwyr polisi i ddeall y berthynas rhwng allgáu digidol ac anghydraddoldebau iechyd yn well a darparu gwasanaethau mwy cynhwysol. Mae’r rhain yn cynnwys canllaw ymarferol, ffeithlun, a phersonâu ymarferwyr sy’n dangos sut mae allgáu digidol yn effeithio ar wahanol grwpiau poblogaeth a sut y gellir teilwra cymorth i ddiwallu eu hanghenion. Bydd y rhai sy’n bresennol yn cael trosolwg o’r dystiolaeth, gwersi allweddol o’r prosiect, ac offer ymarferol i helpu i nodi, mynd i’r afael ag, a gwerthuso allgáu digidol o fewn eu sefydliadau a’u cymunedau eu hunain.

Deilliannau Dysgu

  • Datblygu gwell dealltwriaeth o’r berthynas rhwng allgáu digidol ac anghydraddoldebau iechyd a chydnabod pam mae allgáu digidol yn fater iechyd y cyhoedd pwysig.
  • Cydnabod y ffyrdd amrywiol y profir allgáu digidol a’r goblygiadau ar gyfer dylunio a darparu gwasanaethau.
  • Cymhwyso a/neu addasu adnoddau’r prosiect i fyfyrio ar allgáu digidol yn eu cyd-destun eu hunain, nodi camau gweithredu posibl, a chefnogi dylunio, cyflwyno a gwerthuso gwasanaethau, mentrau, rhaglenni neu ymyriadau mwy cynhwysol.

  • Gweminar