Neidio i'r cynnwys
Loading Events

Gwaith teg ar gyfer iechyd, lles a thegwch – beth ddylem ni ei wneud? Argymhellion gan banel arbenigol

Gwybodaeth am y digwyddiad

Daeth y digwyddiad i ben

Dyddiad
Amser
-
Lleoliad
Ar-lein
Gwaith teg ar gyfer iechyd, lles a thegwch – beth ddylem ni ei wneud? Argymhellion gan banel arbenigol

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

aMae natur gwaith yn effeithio arnom ni i gyd, a gall naill ai fod yn rhan o’r ateb i Gymru iachach, fwy cyfartal, neu gall gyfrannu at straen seicolegol, salwch a marwolaeth gynnar. Yn y weminar hon byddwch yn clywed arbenigwyr o banel yn trafod yr hyn y gall asiantaethau lleol a rhanbarthol ei wneud i ddylanwadu ar waith teg i gynorthwyo iechyd, tegwch, busnes da a’r economi ehangach.

Cadeiriwyd y Panel gan yr Athro Ceri Phillips, Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac roedd yn cynnwys yr aelodau panel a ganlyn:

  • Yr Athro Alan Felstead, Athro Ymchwil, Prifysgol Caerdydd
  • Dr Amanda Shriwise, Ymgynghorydd Polisi, Swyddfa Fenis WHO a Chymrawd Ymchwil Prifysgol Bremen
  • Mary-Ann McKibben, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru/Cymru Iach ar Waith
  • Rhianydd Williams, Swyddog Tegwch a Pholisi, TUC
  • Sue Husband OBE, Cyfarwyddwr Busnes yn y Gymuned Cymru

Trafododd aelodau’r panel eu safbwyntiau ar ganfyddiadau eu gwaith ar Adroddiad Gwaith Teg ar gyfer Iechyd, Lles a Thegwch. Yn ogystal, gellir dod o hyd i fwy o adnoddau yma

Fideo digwyddiad

Gwerthuso digwyddiad