GADAEL NEB AR ÔL: Gosod tegwch iechyd wrth wraidd ymateb ac adferiad cynaliadwy COVID-19 yng Nghymru
Gwybodaeth am y digwyddiad
Daeth y digwyddiad i ben
- Dyddiad
- Amser
- -
- Lleoliad
- Ar-lein
Ynglŷn â'r digwyddiad hwn
Mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar iechyd a llesiant pobl a chymunedau ac yn economaidd-gymdeithasol, gan effeithio’n anghymesur ar y rheiny â’r angen mwyaf.
Gan groesawu thema Gadael Neb Ar Ôl ac fel rhan o Wythnos Iechyd y Cyhoedd Ewropeaidd 2021, canolbwyntiodd y weminar hon ar y canfyddiadau Gosod tegwch iechyd wrth wraidd ymateb ac adferiad cynaliadwy COVID-19: Adeiladu bywydau llewyrchus i bawb yng Nghymru, yr adroddiad cyntaf a ddatblygwyd fel rhan o fenter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd Cymru (WHESRi), wedi ei arwain gan Ganolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.