Neidio i'r cynnwys
Loading Events

Ein Cynnig Iechyd Byd-eang: Adnewyddu Strategaeth Iechyd Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru

Gwybodaeth am y digwyddiad

Daeth y digwyddiad i ben

Dyddiad
Amser
-
Lleoliad
Ar-lein
Ein Cynnig Iechyd Byd-eang: Adnewyddu Strategaeth Iechyd Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Mae ymgysylltu a dysgu rhyngwladol ym maes iechyd bellach yn bwysicach nag erioed. Mae’n hanfodol i iechyd a lles pobl Cymru i ni rannu dysg, a chyfnewid gwybodaeth, ac adeiladu ar arferion gorau gyda’n partneriaid ledled y byd.

Cyflwynodd y weminar Strategaeth Iechyd Rhyngwladol adnewyddedig Iechyd Cyhoeddus Cymru, a beth yw’r strategaeth, a pham maen’n bwysig.

Siaradodd yr Athro Fu-Meng Khaw o Iechyd Cyhoeddus Cymru am ei waith iechyd rhyngwladol trwy ei rôl fel arweinydd sefydliadol Cymdeithas Ryngwladol Sefydliadau Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol (IANPHI) a chyd-gadeirydd rhwydwaith Canolbwynt Cenedlaethol IANPHI. Bydd mynychwyr yn arwain at botensial cydweithredu iechyd rhyngwladol a’r cyfleoedd a ddaw yn eu sgil.

Deilliannau Dysgu:

  • Deall pam mae gennym strategaeth Iechyd Rhyngwladol
  • Deall pwysigrwydd/buddion gwaith Iechyd Rhyngwladol
  • Deall rhai o’r gweithgareddau sy’n cefnogi gwaith Iechyd Rhyngwladol
  • Deall nad yw Iechyd Rhyngwladol bob amser yn golygu teithio i wlad arall
  • Bod yn rhan o’n cymuned ymarfer os oes ganddynt ddiddordeb

Cadeirydd:
Liz Green, Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol / Cyfarwyddwr y Rhaglen ar gyfer Asesu’r Effaith ar Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Siaradwyr:
Laura Holt, Uwch Swyddog Iechyd Rhyngwladol, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Yr Athro Fu-Meng Khaw, Cyfarwyddwr Cenedlaethol, Gwasanaethau Diogelu Iechyd a Sgrinio / Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol, Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Mae trawsgrifiad o’r fideo ar gael ar gais

Fideo digwyddiad

Cyflwyniad digwyddiad

Iechyd Cyhoeddus Cymru: Ffocws Cenedlaethol, yn gyfrifol yn fyd-eang

PDF, 1MB

Llawrlwytho PDF - Iechyd Cyhoeddus Cymru: Ffocws Cenedlaethol, yn gyfrifol yn fyd-eang (1 MB)

Llawrlwytho

Cymdeithas Ryngwladol Sefydliadau Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol (IANPHI)

PDF, 883KB

Llawrlwytho PDF - Cymdeithas Ryngwladol Sefydliadau Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol (IANPHI) (883 KB)

Llawrlwytho

Gwerthuso digwyddiad