Neidio i'r cynnwys
Loading Events

Dylanwadu ar y Bwlch Iechyd: Safbwyntiau o nifer o wledydd

Gwybodaeth am y digwyddiad

Daeth y digwyddiad i ben

Dyddiad
Amser
-
Lleoliad
Ar-lein
Dylanwadu ar y Bwlch Iechyd: Safbwyntiau o nifer o wledydd

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Cyflwynodd y gweminar hwn brofiadau a mewnwelediadau ar ddadansoddiadau dadelfennu’r fenter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd (HESRi), gyda thrafodaeth ymhlith nifer o wledydd ar ddulliau a chanfyddiadau (Cymru, yr Eidal a Slofenia). Mae’n sesiwn sy’n canolbwyntio ar ddatrysiadau, gan edrych ar y ffordd y mae defnyddio methodoleg arloesol dadansoddi dadelfennu wedi arwain at ddealltwriaeth o’r hyn sy’n ysgogi anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru a rhanbarthau eraill. Nod y gweminar oedd:

  • Rhannu profiadau nifer o wledydd ar ddefnyddio’r fethodoleg dadelfennu a sut y gellir ei defnyddio fel offeryn i fesur tegwch iechyd
  • Helpu i lywio gweithredu pellach o ran polisi ac atebion posibl er mwyn lleihau’r bwlch iechyd yng Nghymru a thu hwnt
  • Cael dealltwriaeth ynghylch y camau nesaf

Dangosodd y panel sut y gall yr offeryn dadansoddi dadelfennu i fesur tegwch iechyd, a sut y gellir ei ddefnyddio i lywio gweithredu pellach o ran polisi ac atebion posibl er mwyn lleihau’r bwlch iechyd yng Nghymru a thu hwnt.

Cafwyd trafodaeth banel yn adeiladu ar y gwersi a ddysgwyd ac yn archwilio unrhyw gyfyngiadau ar y dadansoddi, ac i ddilyn, ceir sesiwn cwestiwn ac ateb ymhlith y cyfranogwyr.

Roedd y siaradwyr yn cynnwys:

CADEIRYDD: Jo Peden – Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Nadia Vimercati – Rhanbarth Lombardia, yr Eidal
Elizabeth Tamang – Cyfarwyddwr Meddygol, Adran Atal, Rhanbarth Veneto, yr Eidal
Luigi Palestini – Rhanbarth Emilia-Romagna, yr Eidal
Luigi Bertinato – Ysgrifenyddiaeth Wyddonol i’r Llywydd, Sefydliad Iechyd Cenedlaethol ISS, yr Eidal
James Allen – Prif Arbenigwr Cudd-wybodaeth Iechyd y Cyhoedd – Iechyd y Boblogaeth, Bryste, Gogledd Gwlad yr Haf a De Swydd Gaerloyw
Andrej Srakar – Cydymaith Gwyddonol, Sefydliad Ymchwil Economaidd, Ljubljana; Athro Cynorthwyol, Ysgol Economeg a Busnes, Prifysgol Ljubljana

Fideo digwyddiad

Cyflwyniad digwyddiad

Dylanwadu ar y Bwlch Iechyd: Safbwyntiau o nifer o wledydd

, 14MB

Llawrlwytho - Dylanwadu ar y Bwlch Iechyd: Safbwyntiau o nifer o wledydd (14 MB)

Llawrlwytho

Gwerthuso digwyddiad