Neidio i'r cynnwys
Loading Events

Dosbarth Meistr – Masnach ac Iechyd Rhyngwladol

Gwybodaeth am y digwyddiad

Daeth y digwyddiad i ben

Dyddiad
Amser
-
Lleoliad
Ar-lein
Three overlapping circles in purple, blue, and green labeled COVID-19, Brexit, and Newid yn y Hinsawdd, forming a Venn-style diagram.

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Gall effaith masnach rhyngwladol, iechyd ariannol ac economïau byd-eang gael effaith hir a pharhaus ar iechyd y boblogaeth, fel yr ydym wedi gweld yn ddiweddar yn ystod pandemig COVID-19 a’r gwrthdaro parhaus presennol yn Wcráin.

Rhoddodd Dr Courtney McNamara o Brifysgol Newcastle a Liz Green o Iechyd Cyhoeddus Cymru ddosbarth meistr 90 munud ar iechyd a masnach. Roedd y dosbarth meistr yn cynnwys cyflwyniadau a thrafodaeth holi ac ateb ryngweithiol yn edrych ar effeithiau Cytundeb Cynhwysfawr a Chynyddol ar gyfer Partneriaeth Traws-Pasiffig (CPTPP) ar Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru, a phwy a sut y gallai pobl gael eu heffeithio.

Rhoddodd y Dosbarth Meistr ddealltwriaeth i’r cyfranogwyr o’r canlynol:

  • Pam mae cytundebau masnach yn bwysig i iechyd a lles ar draws amrywiaeth eang o sectorau a lleoliadau, e.e. bwyd a’r economi.
  • Pam mae cytundebau masnach yn bwysig i amrywiaeth eang o grwpiau o’r boblogaeth a sut maent yn byw, ac yn fforddio byw.
  • Pam mae angen i Iechyd y Cyhoedd ddiweddaru eu gwybodaeth am bolisi masnach er mwyn i swyddogion allu eirioli dros iechyd.
  • Y broses Asesu’r Effaith ar Iechyd mewn perthynas â’r CPTPP, er enghraifft rheoliadau amgylcheddol, safonau bwyd, cost a chyflenwad nwyddau.

Fideo digwyddiad

Gwerthuso digwyddiad