Deddf Gofal Gwrthgyfartal yng Nghymru: Ffordd Ymlaen
Gwybodaeth am y digwyddiad
Daeth y digwyddiad i ben
- Dyddiad
- Amser
- -
- Lleoliad
- Ar-lein
Ynglŷn â'r digwyddiad hwn
Mae anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru ar gynnydd, ac er bod yr achosion sylfaenol yn aml y tu allan i’r system gofal iechyd, mae rôl hollbwysig i ofal sylfaenol wrth fynd i’r afael â’r gwahaniaethau hyn. Drwy gymryd camau rhagweithiol, gallwn helpu i liniaru a lleihau’r gwahaniaethau hyn, gan sicrhau gofal iechyd teg i bawb. Fodd bynnag, os nad ydym yn ofalus, gallai ein camau gweithredu ehangu’r bylchau hyn yn anfwriadol. Mae’n hanfodol ein bod yn cydnabod yr effaith y gall gofal sylfaenol ei chael a chymryd camau bwriadol i wneud gwahaniaeth cadarnhaol.
Roedd y gweminar hwn yn archwilio’r Rhaglen Deddf Gofal Gwrthgyfartal yng Nghymru. Ymunwch â ni i ddilyn llwybr tuag at degwch. Gobeithiwn ddarganfod strategaethau addawol ar lefelau polisi, a chymryd rhan mewn deialog gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, llunwyr polisi ac arweinwyr cymunedol. Rydym am ddatblygu atebion y gellir eu gweithredu a dod o hyd i ffyrdd o ymgorffori argymhellion y rhaglen hon mewn gofal sylfaenol ar gyfer ataliaeth a chynaliadwyedd.
Canlyniadau Dysgu:
- Cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r rhaglen Deddf Gofal Gwrthgyfartal yng Nghymru.
- Arddangos strategaethau a mentrau addawol a ddefnyddir yng Nghymru a’u canlyniadau sydd wedi’u hanelu at fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd ar lefelau polisi yng Nghymru.
- Meithrin deialog ymhlith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, llunwyr polisi ac academyddion i ddatblygu strategaethau ar gyfer hybu tegwch iechyd.
- Grymuso cyfranogwyr i ystyried ffyrdd o bwysleisio’r angen i ymgorffori’r gwaith hwn mewn gofal sylfaenol ar gyfer atal a chynaliadwyedd.
Darllen pellach:
Menter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd Cymru (WHESRi) – Iechyd Rhyngwladol (icccgsib.co.uk)
Animeiddiadau WHESRi – Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru) [DOLEN DDIM YN GWEITHIO]
2022_whesri_influencingthehealthgapinwales_w.pdf (phwwhocc.co.uk)
https://platfformdatrysiadau.co.uk/
ICL Dashboard – Phase 3 FINAL (genially.com)
Mae trawsgrifiad o’r fideo ar gael ar gais.
Fideo digwyddiad
Cyflwyniad digwyddiad
Ffion Prothero
PDF, 2MB
Llawrlwytho PDF - Ffion Prothero (2 MB)
LlawrlwythoKerry Bailey a Fatima Sayed
PDF, 2MB
Llawrlwytho PDF - Kerry Bailey a Fatima Sayed (2 MB)
LlawrlwythoGwerthuso digwyddiad