Deall y dylanwadau ar les meddwl ar lefel unigol a chymunedol
Gwybodaeth am y digwyddiad
Daeth y digwyddiad i ben
- Dyddiad
- Amser
- -
- Lleoliad
- Ar-lein
Ynglŷn â'r digwyddiad hwn
Mae lles meddwl yn hanfodol i iechyd a lles. Nod Iechyd Cyhoeddus Cymru yw lansio rhaglen waith newydd, Hapus, sy’n ymwneud yn rhannol â chael sgwrs genedlaethol i annog pobl yng Nghymru i ganolbwyntio ar yr hyn sydd yn bwysig iddyn nhw a’u lles meddwl ac i wneud amser i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n hyrwyddo ac yn diogelu
Tanategir y rhaglen gan fframwaith cysyniadol yn seiliedig ar dystiolaeth sy’n darlunio elfennau allweddol o les meddwl a’r rhyng-gysylltiad rhwng lles unigol a chymunedol. Mae’r fframwaith yn cydnabod bod y ffordd yr ydym yn meddwl ac yn teimlo yn cael ei ddylanwadu gan amrywiaeth o ffactorau seicogymdeithasol, profiadau yn y gorffennol a’r presennol, ein hymddygiad iechyd a’n statws iechyd, yn ogystal â phenderfynyddion ehangach iechyd. Mae ein statws a’n rhyngweithio o fewn cymunedau hefyd yn dylanwadu ar les meddwl.
Nod defnyddio’r model hwn fel sylfaen ‘Hapus’ yw gwella dealltwriaeth pobl o les meddwl ac annog pobl i ymgysylltu â gweithgareddau yn seiliedig ar dystiolaeth sydd yn gallu helpu i ddiogelu a hyrwyddo lles, fel ymgysylltu â’r amgylchedd naturiol, y celfyddydau, treftadaeth a diwylliant.
Rydym eisiau i chi fod yn rhan o sgwrs genedlaethol a’r weminar hon yw dechrau ein taith.
Canlyniadau Dysgu:
- Cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth o Fframwaith Cysyniadol Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer Lles Meddwl a rhaglen Hapus
- Cynyddu gwybodaeth am gydrannau lles meddwl da
Siaradwyr:
- Emily van de Venter, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd (Gwella Iechyd), Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Carol Owen, Prif Arbenigwr Hybu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Fideo digwyddiad
Cyflwyniad digwyddiad
Hyrwyddo lles meddyliol
PDF, 3MB
Llawrlwytho PDF - Hyrwyddo lles meddyliol (3 MB)
LlawrlwythoGwerthuso digwyddiad