Neidio i'r cynnwys
Loading Events

Datblygu Gwyliadwriaeth Hinsawdd ar gyfer Cymru: O Ddata i Weithredu

Gwybodaeth am y digwyddiad

Daeth y digwyddiad i ben

Dyddiad
Amser
-
Lleoliad
Ar-lein
Datblygu Gwyliadwriaeth Hinsawdd ar gyfer Cymru: O Ddata i Weithredu

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Mae heriau digynsail i’n hiechyd a’n llesiant o ganlyniad i newid hinsawdd, gan ei gwneud yn hanfodol deall ei effeithiau ac ymateb yn rhagweithiol iddynt. Yn y weminar hon, gwnaethom ymchwilio i rôl hollbwysig gwyliadwriaeth iechyd y cyhoedd yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd yng Nghymru.

Mae gwyliadwriaeth iechyd y cyhoedd yn hollbwysig wrth nodi, monitro a lliniaru effeithiau andwyol newid hinsawdd ar iechyd. Drwy gasglu a dadansoddi data, gallwn drosi gwybodaeth yn wybodaeth sy’n llywio’r gwaith o ddatblygu a gwerthuso polisïau cenedlaethol a strategaethau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i amddiffyn cymunedau a gwella gwydnwch.

Roedd y digwyddiad hwn yn arddangos y safbwyntiau diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru, gan bwysleisio sut mae gwyliadwriaeth iechyd y cyhoedd yn hanfodol i addasu i risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd a’u lliniaru.

Canlyniadau Dysgu:

  • Pwysigrwydd gwyliadwriaeth iechyd y cyhoedd yn yr ymateb (lliniaru/addasu) i newid hinsawdd yng Nghymru.
  • Rôl polisi cenedlaethol wrth fynd i’r afael ag effeithiau newid hinsawdd ar iechyd.
  • Effaith tymheredd eithafol ar gyfraddau marwolaethau.
  • Y cyfle i roi adborth a dysgu am gynlluniau Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer gwyliadwriaeth iechyd y cyhoedd yn yr ymateb i newid hinsawdd.


Siaradwyr:

Giri Shankar – Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Louisa Nolan, Pennaeth Gwyddor Data, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Behrooz Behbod – Epidemiolegydd Ymgynghorol, Y Ganolfan Wyliadwriaeth ar gyfer Clefydau Trosglwyddadwy, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Melissa Fallon – Epidemiolegydd (Arbenigwr Dadansoddi Gwybodaeth), Iechyd Cyhoeddus Cymru
Laura Andrews – Dirprwy Bennaeth Uwch-Ddadansoddeg a Modelu, Cyngor ar Wyddoniaeth a Thystiolaeth
Mark Humphrys – Is-adran Cyngor ar Wyddoniaeth a Thystiolaeth, Llywodraeth Cymru
Sarah Jones – Ymgynghorydd Diogelu Iechyd yr Amgylchedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Lisa Wise – Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Newid Hinsawdd ac Iechyd y Cyhoedd Amgylcheddol, Cyfarwyddiaeth Iechyd a Llesiant, Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru
Rebecca Masters – Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae trawsgrifiad o’r fideo ar gael ar gais

Fideo digwyddiad

Cyflwyniad digwyddiad

Datblygu Gwyliadwriaeth Hinsawdd ar gyfer Cymru: O Ddata i Weithredu

, 5MB

Llawrlwytho - Datblygu Gwyliadwriaeth Hinsawdd ar gyfer Cymru: O Ddata i Weithredu (5 MB)

Llawrlwytho

Gwerthuso digwyddiad