Datblygu a Gweithredu Rhaglen Atal Niwed sy’n gysylltiedig â Gamblo Genedlaethol i Gymru
Gwybodaeth am y digwyddiad
Daeth y digwyddiad i ben
- Dyddiad
- Amser
- -
- Lleoliad
- Ar-lein
Ynglŷn â'r digwyddiad hwn
Gall niwed sy’n gysylltiedig â gamblo effeithio ar unigolion, teuluoedd, cymunedau a chymdeithas yn gyffredinol, gan wneud atal yn gyfrifoldeb a rennir sy’n ymestyn y tu hwnt i wasanaethau triniaeth a chymorth. Mae’r weminar hon yn archwilio pam mae dull iechyd y cyhoedd ar lefel y boblogaeth yn hanfodol, sut y bydd tystiolaeth a phrofiad bywyd yn parhau i lywio datblygiad rhaglenni, a phwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth wrth greu newid cynaliadwy. Cafodd cyfranogwyr yn cael cipolwg ar gydrannau allweddol rhaglen atal genedlaethol ac yn dysgu sut y gall dull cydlynol helpu i leihau niwed, mynd i’r afael ag anghydraddoldebau a hyrwyddo amgylcheddau iachach.
Y deilliannau dysgu:
- Disgrifio graddfa, natur a dosbarthiad niwed sy’n gysylltiedig â gamblo yng Nghymru.
- Deall yr achos dros ddull iechyd y cyhoedd cenedlaethol o atal niwed sy’n gysylltiedig â gamblo
- Esbonio egwyddorion allweddol rhaglen atal niwed sy’n gysylltiedig â gamblo ar lefel y boblogaeth
- Dysgu sut mae tystiolaeth, profiad bywyd, a gweithio mewn partneriaeth wedi’u hymgorffori yn nyluniad y rhaglen a byddant yn parhau i lunio’r gweithrediad a blaenoriaethau’r dyfodol.
- Cydnabod cyfleoedd i integreiddio atal niwed sy’n gysylltiedig â gamblo o fewn systemau a llwybrau iechyd y cyhoedd presennol.
- Nodi camau ymarferol i gefnogi gweithredu o fewn eich sefydliad neu’ch maes dylanwad eich hun.
Fideo digwyddiad
Cyflwyniad digwyddiad
Datblygu a gweithredu rhaglen atal niwed syn gysylltiedig a gamblo genedlaethol i gymru
PDF, 2MB
Llawrlwytho PDF - Datblygu a gweithredu rhaglen atal niwed syn gysylltiedig a gamblo genedlaethol i gymru (2 MB)
LlawrlwythoGwerthuso digwyddiad