Cynhadledd Iechyd a Gofal Gwledig Cymru 2022 – Royal Welsh Showground
Gwybodaeth am y digwyddiad
Daeth y digwyddiad i ben
- Dyddiad
- Amser
- -
- Lleoliad
- Royal Welsh Showground
Ynglŷn â'r digwyddiad hwn
Dysgu o’r Gorffenol, Edrych i’r Dyfodol – ffocws ar arfer gorau, arloesi ac ymchwil sy’n llywio’r gwaith o ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal yng nghefn gwlad Cymru
Cynhelir Cynhadledd Iechyd a Gofal Gwledig Cymru eleni mewn fformat hybrid, gyda phobl yn gallu mynychu ar-lein neu’n bersonol ym Mhafiliwn Montgomery, maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys, LD2 3SY.
Themau a Llinynnau:
- Y gwersi a ddysgwyd o bandemig Covid-19 a’u heffaith ar Iechyd a Gofal Gwledig
- Darparu gwasanaethau Iechyd a Gofal integredig mewn ardaloedd Gwledig
- Rol Cymunedau Gwledig ym maes Iechyd a Gofal
- Teleiechyd / Telefeddygaeth a darparu gwasanaethau Iechyd a Gofal o bell mewn ardaloedd Gwledig
- Presgripsiynu Cymdeithasol / Gwyrdd a’u heffaith ar Iechyd a Lles
- Recriwtio, Cadw a Rolau Newydd ym maes Iechyd a Gofal mewn ardaloedd Gwledig
- Addysg, Hyfforddiant a Datblydiadau Proffesiynol Parhaus ar gyfer gweithwyr Iechyd a Gofal proffesiynol sy’n gweithio mewn ardaloedd Gwledig
Bydd y Gynhadledd eleni eto’n cynnwys sesiwn Panel a fynychir gan Brif Weithredwyr y 3 Bwrdd Iechyd yn y Canolbarth (BIPBC, BIPHDd a BIAP) yn cymryd rhan mewn Panel, yn ogystal a 5 Sesiwn Llawn arall, 23 o gyflwyniadau Papur a thros 30 o gyflwyniadau Poster.
Mae’r Gynhadledd wedi’i hanelu at weithwyr iechyd a gofal proffesiynol, academyddion, ymarferwyr, cleifion a’r cyhoedd sydd a diddordeb mewn iechyd, lles a gofal gwledig. Gellir prynu tocynnau ar gyfer y Gynhadledd isod, gyda ychydig iawn o dal yn cael ei godi tuag at arlwyio ar gyfer y rhai sy’n mynychu’n bersonol.