Neidio i'r cynnwys
Loading Events

Cymryd camau mewn perthynas â’r argyfwng costau byw yng Nghymru

Gwybodaeth am y digwyddiad

Daeth y digwyddiad i ben

Dyddiad
Amser
-
Lleoliad
Ar-lein
Cymryd camau mewn perthynas â’r argyfwng costau byw yng Nghymru

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Nid gwasgfa economaidd dros dro yn unig yw’r argyfwng costau byw presennol, yn hytrach mae’n fater iechyd y cyhoedd hirdymor sy’n effeithio ar y boblogaeth gyfan. Gallai’r effaith ar iechyd a llesiant yng Nghymru gael ei roi ar yr un raddfa â’r pandemig COVID-19, a oedd eisoes wedi gwaethygu’r anghydraddoldebau presennol yng Nghymru. Mae’r argyfwng costau byw yn cael, a bydd yn parhau i gael, effeithiau eang a hirdymor ar anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.

Rhoddodd ein panel gwybodus o arbenigwyr drosolwg o:

  • Y data diweddaraf am gostau byw yng Nghymru
  • Effeithiau’r argyfwng costau byw ar iechyd yng Nghymru
  • Meysydd gweithredu allweddol ar gyfer y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector yng Nghymru
  • Pa ddulliau sy’n gweithio orau yn y tymor byr, canolig a hir
  • Pa gymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan
  • Sut y gall awdurdodau lleol ddefnyddio dull seiliedig ar wyddor ymddygiad

Roedd y siaradwyr yn cynnwys:

Manon Roberts – Uwch Swyddog Polisi, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Ben Saltmarsh – Pennaeth NEA Cymru
Judith Langdon – Rheolwr Arloesi Cyfiawnder Cymdeithasol, CLlLC
Alice Cline – Uwch Arbenigwr Newid Ymddygiad, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Dr Steffan Evans – Pennaeth Polisi (Tlodi), Sefydliad Bevan
Grace Robinson – Swyddog y Rhaglen Cyflogau Byw, Cynnal Cymru

Fideo digwyddiad

Cyflwyniad digwyddiad

Cymryd camau mewn perthynas â'r argyfwng costau byw yng Nghymru

, 11MB

Llawrlwytho - Cymryd camau mewn perthynas â'r argyfwng costau byw yng Nghymru (11 MB)

Llawrlwytho

Gwerthuso digwyddiad