Neidio i'r cynnwys
Loading Events

Cyflwyniad i egwyddorion ymddygiad, newid ymddygiad a gwyddor ymddygiad cymhwysol

Gwybodaeth am y digwyddiad

Daeth y digwyddiad i ben

Dyddiad
Amser
-
Lleoliad
Ar-lein
Cyflwyniad i egwyddorion ymddygiad, newid ymddygiad a gwyddor ymddygiad cymhwysol

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Mae ymddygiad yn chwarae rhan allweddol mewn gwella iechyd a llesiant. Mae nodi a deall ymddygiadau a ffactorau sy’n dylanwadu arnynt, a’r ffordd orau o fynd i’r afael â’r ffactorau hyn yn hanfodol i gyflawni uchelgeisiau polisi ac arfer iechyd y cyhoedd. Roedd y gweminar hwn yn archwilio rôl hanfodol ymddygiadau wrth wella iechyd a llesiant Cymru, archwilio’r hyn a olygwn wrth ymddygiad ac ystyried yr ystod o ffactorau sy’n dylanwadu ar ymddygiad gan ddefnyddio modelau a fframweithiau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Deilliannau Dysgu

  • Gwell dealltwriaeth o rôl ymddygiadau a gwyddor ymddygiad ym maes iechyd y cyhoedd
  • Mwy o ymwybyddiaeth o’r ystod o benderfynyddion ymddygiadol a’u pwysigrwydd fel meysydd ffocws ar gyfer gweithredu iechyd y cyhoedd
  • Gwybodaeth am fframweithiau damcaniaethol y gellir eu defnyddio i nodi penderfynyddion ymddygiadol ar gyfer gweithredu ym maes iechyd y cyhoedd
  • Wedi ystyried ffyrdd y gallech chi gynnwys gwyddor ymddygiad yn eich gweithredoedd ar gyfer gwell iechyd
  • Mwy o wybodaeth am yr Uned Gwyddor Ymddygiad a sut i gael mwy o gefnogaeth i’ch ymdrechion i gynyddu’r defnydd o wyddor ymddygiad yn eich gwaith

 

Cartref – Uned Gwyddor Ymddygiad (icccgsib.co.uk)

 

Mae trawsgrifiad o’r fideo ar gael ar gais.

Fideo digwyddiad

Cyflwyniad digwyddiad

Cyflwyniad i egwyddorion ymddygiad, newid ymddygiad a gwyddor ymddygiad cymhwysol

PDF, 3MB

Llawrlwytho PDF - Cyflwyniad i egwyddorion ymddygiad, newid ymddygiad a gwyddor ymddygiad cymhwysol (3 MB)

Llawrlwytho

Gwerthuso digwyddiad