Creu lleoedd a mannau iach: dull cydweithredol
Gwybodaeth am y digwyddiad
Daeth y digwyddiad i ben
- Dyddiad
- Amser
- -
- Lleoliad
- Ar-lein
Ynglŷn â'r digwyddiad hwn
Cynhaliwyd y digwyddiad yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad – “Mwyafu cyfleoedd iechyd a lles mewn cynllunio gofodol wrth ailsefydlu yn sgîl y pandemig COVID-19” a nododd sut mae cydweithio rhwng cynllunio gofodol ac iechyd yn hanfodol er mwyn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd iechyd a lles wrth adfer ar ôl pandemig COVID-19. Cyflwynodd y digwyddiad ganfyddiadau’r adroddiad hwn.
Amlygodd nifer o gyflwyniadau sut y gellir cydgysylltu cynllunio ac iechyd. Ymdriniodd siaradwyr â’r materion cyfredol sy’n wynebu ein cymunedau a’n lleoedd, pwysigrwydd cydweithio, dylunio ar gyfer plant a chreu lleoedd iach i bawb ac enghraifft o ymgysylltu rhwng cenedlaethau ar brosiect cynllunio a dylunio.
Amcanion y digwyddiad oedd:
- Deall yr heriau mawr sy’n wynebu cymunedau gan gynnwys effeithiau pandemig COVID-19
- Deall y cyfraniad y gall cynllunio a chreu lleoedd ei wneud i fynd i’r afael â’r heriau iechyd mawr sy’n wynebu cymunedau.
- Dangos technegau i gynllunwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol ymgysylltu’n effeithiol â chymunedau lleol er mwyn gwneud y mwyaf o ganlyniadau dysgu gwaith creu lleoedd:
- Mwy o gydweithio rhwng gweithwyr iechyd proffesiynol a chynllunwyr
- Mwy o wybodaeth am sut y gall gweithio ar y cyd arwain at ddatblygu lleoedd a mannau iach
- Archwilio a chryfhau cyfleoedd a rolau wrth greu lleoedd newydd, gan ddefnyddio offer a chanllawiau i ddarparu’r manteision mwyaf posibl i gymunedau
Cadeiriwyd y digwyddiad gan Kate Eden, Is-gadeirydd, Iechyd Cyhoeddus Cymru. Dywedodd Kate ‘Roedd yn wych gweld cynifer o bobl yn bresennol, a oedd am ddysgu rhagor am y cyfleoedd a’r potensial ar gyfer gweithio cydgysylltiedig rhwng cynllunwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol. Roedd y cynrychiolwyr yn gallu clywed rhai enghreifftiau o ble y gwneir hyn yn effeithiol, a hefyd yn cymryd rhan mewn trafodaethau am adnoddau a fydd yn eu cefnogi wrth iddynt fwrw ymlaen â’r gwaith hwn ledled Cymru’.
Event videos
-
Creu lleoedd a mannau iach: dull cydweithredol - pob cyflwyniad
-
Creu lleoedd a mannau iach: dull cydweithredol - Michael Chang a Liz Green
-
Creu lleoedd a mannau iach: dull cydweithredol - Lydia Orford
-
Creu lleoedd a mannau iach: dull cydweithredol - Tim Gill
-
Creu lleoedd a mannau iach: dull cydweithredol - Sophie Paterson
Cyflwyniad digwyddiad
Creu lleoedd a mannau iach: dull cydweithredol | Post Event Summary Welsh
PDF, 773KB
Llawrlwytho PDF - Creu lleoedd a mannau iach: dull cydweithredol | Post Event Summary Welsh (773 KB)
LlawrlwythoGwerthuso digwyddiad