Canfod ac atal masnach anghyfreithlon mewn cyffuriau, alcohol a thybaco yng Nghymru
Gwybodaeth am y digwyddiad
Daeth y digwyddiad i ben
- Dyddiad
- Amser
- -
- Lleoliad
- Ar-lein
Ynglŷn â'r digwyddiad hwn
Mae’r cynnydd sylweddol yn nifer y marwolaethau a derbyniadau i ysbytai sy’n gysylltiedig â defnyddio cyffuriau ac alcohol anghyfreithlon, ochr yn ochr â’r risg barhaus sy’n deillio o dybaco, yn argyfwng iechyd cyhoeddus sy’n gofyn am gydweithredu a chydgysylltu ar draws sectorau ac asiantaethau. Mae cyffuriau, alcohol a thybaco a gaiff eu masnachu’n anghyfreithlon yn cael effaith niweidiol ar iechyd a lles y boblogaeth sy’n mynd y tu hwnt i’r risg a achosir eisoes gan eu ffurfiau cyfreithlon, ac mae canfod ac atal masnach anghyfreithlon yn y nwyddau hyn yn hanfodol.
Mae Brexit wedi newid pa gronfeydd data troseddol yr Undeb Ewropeaidd (UE) y caiff y Deyrnas Unedig (DU) fynediad iddynt, ac wedi creu cyfleoedd ar gyfer newid rheolaethau rheoli ffiniau a mewnforio a pherthnasoedd masnachu. Mae gan hyn y potensial i effeithio ar y cyflenwad o gyffuriau, alcohol, a thybaco anghyfreithlon yng Nghymru, yn ogystal â’r ffyrdd y gall y DU weithio gyda’r UE ac eraill i ganfod ac atal masnach anghyfreithlon yn y nwyddau hyn.
Roedd y gweminar hwn yn crynhoi’r systemau rhyngwladol y bu’r DU a Chymru yn cymryd rhan ynddynt i fynd i’r afael ag alcohol, tybaco a chyffuriau anghyfreithlon cyn Brexit. Archwiliodd y panel sut mae’r rhain wedi newid ar ôl Brexit a’r effaith bosibl y gallai hynny ei chael ar iechyd a lles yng Nghymru.
Gobeithiwn y bydd y weminar hon yn adnodd gwerthfawr i’r sawl sy’n ymwneud â mynd i’r afael â masnach anghyfreithlon (e.e. cynghorau tref, cynghorau dinas a chynghorau sir, cyrff gorfodi’r gyfraith, swyddogion data deallusrwydd a swyddogion tollau), ac o ddiddordeb ehangach i weithwyr proffesiynol iechyd y cyhoedd a swyddogion sy’n gweithio ar bolisi iechyd y cyhoedd, fel mynegiant o’r ffyrdd niferus y mae gan Brexit y potensial i ddylanwadu ar iechyd a lles pobl yng Nghymru.
Siaradwyr:
Cadeirydd: Louisa Petchey, Uwch Arbenigwr Polisi, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Leah Silva, Uwch Swyddog Datblygu Polisi a Thystiolaeth Ryngwladol, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Chris Emmerson, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Dr Paul Gilmour, Uwch Ddarlithydd mewn Troseddau Economaidd, Prifysgol Portsmouth
Fideo digwyddiad
Cyflwyniad digwyddiad
Chris Emmerson
PDF, 1MB
Llawrlwytho PDF - Chris Emmerson (1 MB)
LlawrlwythoLeah Silva
PDF, 1MB
Llawrlwytho PDF - Leah Silva (1 MB)
LlawrlwythoDr Paul Gilmour
PDF, 1MB
Llawrlwytho PDF - Dr Paul Gilmour (1 MB)
LlawrlwythoGwerthuso digwyddiad