Neidio i'r cynnwys
Loading Events

Amgylchedd Bwyd Ysgolion yn Helpu i Lunio Dyfodol Iachach: Rhannu Dysgu o Dystiolaeth i Ysgogi Gweithredu

Gwybodaeth am y digwyddiad

Daeth y digwyddiad i ben

Dyddiad
Amser
-
Lleoliad
Ar-lein
Amgylchedd Bwyd Ysgolion yn Helpu i Lunio Dyfodol Iachach: Rhannu Dysgu o Dystiolaeth i Ysgogi Gweithredu

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Ydych chi wedi meddwl tybed beth mae’r dystiolaeth ddiweddaraf yn ei ddweud am y rôl y gall bwyd ysgol ei chwarae wrth lunio iechyd a lles plentyn?  A sut, y gallwn ni yng Nghymru, wneud y mwyaf o gyfleoedd yn amgylchedd bwyd ysgolion er budd iechyd a lles y boblogaeth nawr ac yn y dyfodol?

Mae’r weminar amserol hon yn cyd-daro ag ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru, sef ‘Bwyta ac yfed yn iach mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru’.

Rhoddodd y weminar drosolwg o’r effaith bosibl y mae’r amgylchedd bwyd ysgol yn ei chael ar iechyd a lles plant, oedolion a chymdeithas, gan ddisgrifio safbwyntiau ar rai o’r heriau a’r cyfleoedd wrth greu amgylcheddau bwyd ysgol iachach.

Roedd yn cwmpasu:

  • Safbwynt maeth iechyd y cyhoedd ar y safonau bwyd a maeth wedi’u diweddaru arfaethedig
  • Sut i lunio dulliau ysgol gyfan tuag at fwyd a maeth
  • Pwysigrwydd cynnwys plant, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol sydd â rôl i’w chwarae mewn amgylcheddau bwyd ysgolion
  • Ffyrdd o wella gweithredu a monitro i gefnogi amgylcheddau bwyd iachach mewn ysgolion.


Canlyniadau Dysgu:

  • Rhoi trosolwg o effaith bosibl amgylchedd bwyd yr ysgol ar iechyd a lles plant yn y tymor byr, canolig a hir.
  • Gwella gwybodaeth am y cyfle y mae’r ymgynghoriad ‘Bwyta ac yfed yn iach mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru’ yn ei gynnig, yn cynnwys adlewyrchu’r dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf ar faeth ac iechyd.
  • Rhannu dealltwriaeth o’r heriau a’r datrysiadau posibl sy’n gysylltiedig â chreu amgylcheddau bwyd iach mewn ysgolion.
  • Clywed enghreifftiau ymarferol o rai o’r gwahanol ddulliau sy’n cael eu datblygu yng Nghymru i wella iechyd a lles drwy amgylchedd bwyd ysgolion.
  • Gwybod sut i gael gafael ar wybodaeth bellach.

 

Fideo digwyddiad

Cyflwyniad digwyddiad

Amgylchedd Bwyd Ysgolion yn Helpu i Lunio Dyfodol Iachach: Rhannu Dysgu o Dystiolaeth i Ysgogi Gweithredu

PDF, 11MB

Llawrlwytho PDF - Amgylchedd Bwyd Ysgolion yn Helpu i Lunio Dyfodol Iachach: Rhannu Dysgu o Dystiolaeth i Ysgogi Gweithredu (11 MB)

Llawrlwytho

Gwerthuso digwyddiad