Neidio i'r cynnwys
Loading Events

Agweddau ac ymddygiad y cyhoedd yn ystod pandemig COVID-19, ymagwedd gwyddor ymddygiad

Gwybodaeth am y digwyddiad

Daeth y digwyddiad i ben

Dyddiad
Amser
-
Lleoliad
Ar-lein
Agweddau ac ymddygiad y cyhoedd yn ystod pandemig COVID-19, ymagwedd gwyddor ymddygiad

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Yn y weminar hon, bydd Ashley Gould o Uned Gwyddor Ymddygiad, Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn datgelu dylanwadau blaenllaw pennaf penderfyniadau ac ymddygiad, a pham y gall dealltwriaeth well o’r rhain olygu ymyriadau mwy effeithiol, polisïau mwy trawiadol, gwasanaethau tecach a chyfathrebu â chyrhaeddiad ac ymateb gwell. Bydd yn disgrifio ymagwedd bwyllog tuag at ddiffinio, rhoi diagnosis, a dehongli dylanwadau ymddygiadol a’r ffordd orau o ymateb iddynt wrth ddylunio a chyflwyno ymyriadau. Bydd y weminar yn amlygu enghreifftiau o’r ffordd y cafodd gwyddor ymddygiad ei ddefnyddio yn yr ymateb i bandemig COVID-19.

Bydd Simon Williams o Brifysgol Abertawe yn trafod canfyddiadau o’r astudiaeth gafodd ei harwain gan Brifysgol Abertawe, Barn y Cyhoedd yn Ystod y Pandemig Covid (PVCOVID) – prosiect ymchwil hydredol, dulliau cymysg, yn dilyn agweddau ac ymddygiad y cyhoedd yn ystod y pandemig.  Bydd yn trafod ymlyniad y cyhoedd i ymyriadau anfferyllol (NPI) COVID-19 (e.e. Cadw pellter cymdeithasol a gwisgo masgiau) yn ogystal ag ymgymeriad y brechlyn. Bydd yn trafod yr hwyluswyr a’r rhwystrau i ymlyniad, gan ddefnyddio amrywiaeth o gysyniadau a fframweithiau o fewn seicoleg iechyd a gwyddor ymddygiad.

Fideo digwyddiad