Ymyriadau ataliol sylfaenol ar gyfer camddefnyddio sylweddau: map dystiolaeth
Awduron: Gwasanaeth Tystiolaeth
Cyhoeddwyd ar: 2il Rhagfyr 2024
Disgwylir y diweddariad nesaf: Mehefin 2025
Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth
Mynediad ein mapCyflwyniad
Mae’r map hwn yn darparu mynediad strwythuredig i gorff diweddar, cadarn o dystiolaeth eilaidd ar ymyriadau i gynyddu gweithgaredd corfforol. Gall ffynonellau sydd wedi’u cynnwys yn y map ddarparu tystiolaeth sy’n mynd i’r afael â’r cwestiwn canlynol: Pa ymyriadau sy’n effeithiol ar gyfer cynyddu gweithgarwch corfforol?
Prif bwyntiau
Mae ein cyfres o mapiau tystiolaeth ddigidol wedi’u cynllunio i roi mynediad strwythuredig at gorff o dystiolaeth gyfredol, lefel uchel a chadarn ar ystod o bynciau. Maent yn cynnwys ffynonellau tystiolaeth sydd ar frig y ‘pyramid tystiolaeth’ h.y. adolygiadau systematig a gynhaliwyd yn gadarn a chanllawiau sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Eu nod yw rhoi mynediad hawdd i ymarferwyr a’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau at ymchwil ddibynadwy a methodolegol gadarn, y gellir ei defnyddio i helpu i lywio ymarfer a gwneud penderfyniadau.
Mynediad ein mapGwybodaeth dechnegol
Gwybodaeth am fapiau tystiolaeth
Mae adolygiadau tystiolaeth a chanllawiau sydd wedi’u cynnwys yn y map hwn wedi’u grwpio yn ôl y boblogaeth y maent yn canolbwyntio arni a’r math o ymyriad. Fe’u harddangosir mewn map gwres rhyngweithiol. Gall rhai adolygiadau ymddangos mewn mwy nag un categori os ydynt yn cwmpasu sawl grŵp neu ymyriad.
Rydym wedi cofnodi’r lleoliadau lle cynhaliwyd ymyriadau (er enghraifft, ysgolion neu leoliadau cymunedol) a’r canlyniadau a fesurwyd. Gallwch ddefnyddio’r hidlwyr i gulhau canlyniadau yn ôl lleoliad neu ganlyniad.
Bydd clicio ar flwch yn y map gwres yn dangos rhestr o adolygiadau neu ganllawiau perthnasol. O’r fan honno, gallwch agor tudalen crynodeb ar gyfer pob un. Mae’r crynodebau hyn yn cynnwys gwybodaeth allweddol megis amcanion, darganfyddiadau a chasgliadau, wedi’u cymryd yn uniongyrchol o’r cyhoeddiad gwreiddiol. Nid ydym yn dehongli nac yn dadansoddi’r canfyddiadau hyn ein hunain. Yn hytrach rydym yn eu cyflwyno i’ch helpu i benderfynu a ddylech archwilio’r ffynhonnell lawn.
Sut mae defnyddio’r Map hwn
Mae’r map wedi’i gynllunio i’ch helpu i ddod o hyd i dystiolaeth ymchwil yn gyflym sydd eisoes wedi’i dwyn ynghyd mewn ffordd yr ydym yn ei hystyried yn gadarn yn fethodolegol ac felly a allai fod yn sail fwy dibynadwy i ddechrau meddwl am lywio penderfyniadau. Gall hyn fod yn fan cychwyn defnyddiol wrth ystyried tystiolaeth i lywio penderfyniadau.
Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi’r canlynol:
Dylech ystyried a yw’r dystiolaeth yn berthnasol i’ch cyd-destun lleol, fel Cymru.
Bod y chwiliadau a ddefnyddir i greu’r map hwn wedi’u targedu, nid ydynt yn gynhwysfawr. Nid yw’r map yn cynnwys yr holl dystiolaeth sydd ar gael.
Dylid defnyddio’r adolygiadau a ddangosir fel rhan o strategaeth ehangach ar gyfer casglu tystiolaeth ac nid eu defnyddio’n unig fel sail ar gyfer gwneud penderfyniadau, heb holi ac archwilio ymhellach eu cymhwysedd i Gymru.
Adroddiadau perthnasol
-
Cronfa ddata lleihau niwed Cymru: Marwolaethau sy’n Gysylltiedig â Chyffuriau (Adroddiad blynyddol 2025)
Crynodeb gweithredol Canfyddiadau a thueddiadau allweddol Naloxone i’w Ddefnyddio Gartref (THN) – HRD Marwolaethau oherwydd cyffuriau yng Nghymru – y Swyddfa Ystadegau Gwladol Adolygiadau gwenwyno angheuol / heb fod yn […]
Cyhoeddwyd:
-
Cloddio data Cymru: Y proffil blynyddol ar gyfer camddefnyddio sylweddau 2024 i 2025
Crynodeb Gweithredol Tueddiadau lefel poblogaeth Plant a phobl ifanc (iau na 25 oed) Oedolion 25-49 oed Oedolion hŷn, 50 oed a hŷn
Cyhoeddwyd:
-
Rhaglen Nodwyddau a Chwistrellau Fferylliaeth -Deall newid mewn trafodion rhaglen nodwyddau a chwistrellau o fewn lleoliad fferylliaeth gymunedol
Nid yw hwn yn adolygiad cynhwysfawr o brofiadau holl fferyllfeydd cymunedol Cymru. Fodd bynnag, teimlir bod y sampl yn gynrychioliadol er mwyn llywio dealltwriaeth o’r ffactorau sy’n effeithio ar nifer […]
Cyhoeddwyd: 10fed Ionawr 2024
-
Gweithgarwch Rhaglen Nodwyddau a Chwistrellau yng Nghymru Adroddiad Blynyddol 2025 i 2026
Mae’r adroddiad hwn ar gyfer 2025-26 yn dangos tystiolaeth o’r gostyngiad parhaus a sylweddol yng ngweithgarwch pobl sy’n defnyddio cyffuriau (PWID) sy’n cael mynediad at raglenni nodwyddau a chwistrelliau (NSP) […]
Cyhoeddwyd: 27ain Gorffennaf 2026
-
Rhaglen Nodwyddau a Chwistrellau Arbenigol – Deall newid yn nhrafodion rhaglen nodwyddau a chwistrellau
Mae rhaglenni nodwyddau a chwistrellau (NSP) yn darparu ymyriadau lleihau niwed cynhwysfawr i’r boblogaeth o bobl sy’n defnyddio cyffuriau. Mae darpariaeth NSP yn offeryn hanfodol wrth leihau trosglwyddiad feirysau a […]
Cyhoeddwyd: 27ain Gorffennaf 2026
-
Iechyd Cyhoeddus Cymru Ymchwil a Gwerthuso Adroddiad ar y Prif Uchafbwyntiau 2025 i 2026
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn arwain ac yn cefnogi ymchwil i wella iechyd, lleihau anghydraddoldebau a chryfhau gwasanaethau iechyd y cyhoedd yng Nghymru.
Cyhoeddwyd:
Setiau data cysylltiedig
-
Data dangosfwrdd iechyd a lles plant ysgolion cynradd
Adolygwyd ddiwethaf: Mehefin 18, 2026
-
Data dangosfwrdd iechyd a lles plant ysgolion uwchradd
Adolygwyd ddiwethaf: Tachwedd 27, 2025