Cronfa ddata lleihau niwed Cymru: Marwolaethau sy’n Gysylltiedig â Chyffuriau (Adroddiad blynyddol 2025)
Crynodeb gweithredol
Canfyddiadau a thueddiadau allweddol
Naloxone i’w Ddefnyddio Gartref (THN) – HRD
- Er mis Gorffennaf 2013, yn ôl yr adroddiadau, defnyddiwyd THN yn ystod 4,199 o ddigwyddiadau gwenwyno gan gyffuriau opioid, yr oedd pob un ohonynt yn farwolaeth oherwydd cyffuriau o bosib – dim ond yn achos 1.3 y cant (n=53) o achosion lle defnyddiwyd THN yr adroddwyd gwenwyno angheuol gan opioidau.
- Yn 2024, yn ôl yr adroddiadau, defnyddiwyd THN mewn 307 o achosion o wenwyno gan gyffuriau, sef cynnydd o 5.5 y cant o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, gyda <5 marwolaeth wedi’u hadrodd. Gwnaeth amlder y gofal dilynol, gan gynnwys defnyddio ambiwlansys ac arhosiadau yn yr ysbyty, gynyddu ychydig.
- Mae nifer y digwyddiadau cyflenwi ac unigolion newydd a gyflenwyd wedi cynyddu o gymharu â 2023. Cynyddodd cyfanswm y pecynnau THN a ddarparwyd yn 2024 22.3 y cant, i 8,229 o becynnau THN.
- Ceir amrywiadau rhanbarthol o hyd o ran darparu THN i’r rhai sydd mewn perygl o brofi neu weld achos o wenwyno gan gyffuriau opioid, ac i ba raddau y mae hynny’n digwydd, a sylwyd bod cyfraddau uwch o gitiau’n cael eu darparu ym Mhowys a Bae Abertawe.
- Ymhlith unigolion newydd y rhoddwyd cyflenwad o THN iddynt yn 2024, roedd dros hanner (53.9 y cant) wedi’u rhestru fel teulu / partner / gofalwyr neu weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl sydd mewn perygl o gael eu gwenwyno gan opioidau.
- Ymhlith y bobl sy’n chwistrellu cyffuriau ac sy’n defnyddio gwasanaethau rhaglenni nodwyddau a chwistrelli (NSP) yn rheolaidd, dim ond gwasanaethau NSP mewn fferyllfeydd y mae 36.0 y cant yn eu mynychu, lle mae darpariaeth THN yn parhau i fod yn gyfyngedig.
- Er i ddarpariaeth THN yn y gymuned barhau i gynyddu yn 2024, mae’r cyflenwad ar ôl rhyddhau o fewn carchardai wedi amrywio’n sylweddol ers 2014 pan ddechreuodd y rhaglen, gan ei gwneud hi’n anodd nodi tueddiadau cyson
Marwolaethau oherwydd cyffuriau yng Nghymru – y Swyddfa Ystadegau Gwladol
- Yn 2024, cofrestrwyd 417 o farwolaethau yn sgil gwenwyno gan gyffuriau yng Nghymru, sef cynnydd o 10.6 y cant o gymharu â’r flwyddyn flaenorol (n=377). O’r rhain, dosbarthwyd 288 (69.0 y cant) fel marwolaethau yn sgil camddefnyddio cyffuriau. Nifer y marwolaethau oherwydd cyffuriau yn 2024 yw’r uchaf a gofnodwyd erioed yng Nghymru
- Dros y degawd diwethaf, mae marwolaethau yn sgil camddefnyddio
cyffuriau wedi bod dros bum gwaith yn uwch ymhlith y rhai sy’n byw yn yr 20 y cant o ardaloedd mwyaf difreintiedig o gymharu â’r 20 y cant o ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru. - Yn 2024, cymhareb y marwolaethau yn sgil camddefnyddio cyffuriau oedd 2.6:1 rhwng gwrywod a benywod, oherwydd cynnydd yng nghyfran y marwolaethau yn sgil camddefnyddio cyffuriau ymhlith benywod.
- Digwyddodd y rhan fwyaf o farwolaethau ymhlith y rhai yn y grŵp oedran dros 50 oed, gan gyfrif am 34.4 y cant o holl farwolaethau yn sgil camddefnyddio cyffuriau (n = 99) yn 2024.
- Roedd 17 o farwolaethau yn sgil camddefnyddio cyffuriau mewn pobl o dan 25 oed, gan gyfrif am 5.9 y cant o’r marwolaethau yn sgil; camddefnyddio cyffuriau yn 2024, sef cynnydd o 2023.
- Fel yn y blynyddoedd blaenorol, y grŵp sylweddau a adroddwyd amlaf oedd opioidau, a adroddwyd mewn 200 o farwolaethau (69.4 y cant), ac roedd 55.0 y cant ohonynt yn ymwneud â heroin/morffin. Sylweddau eraill a adroddwyd yn gyffredin oedd cocên, pregabalin, bromazolam, methadon, a diazepam.
- Adroddwyd am ddefnyddio amryw gyffuriau mewn 62.2 y cant (n=179) o farwolaethau yn sgil camddefnyddio cyffuriau.
- Mae amrywiad daearyddol sylweddol yn parhau yng nghyfraddau
marwolaethau camddefnyddio cyffuriau wedi’u safoni yn ôl oedran ledled Cymru, gyda chyfraddau awdurdodau lleol yn amrywio o 2.8 i 21.2 o farwolaethau fesul 100,000 o’r boblogaeth
Adolygiadau gwenwyno angheuol / heb fod yn angheuol gan gyffuriau – HRD
- Ers gweithredu’r broses adolygu cyflym ar farwolaethau oherwydd cyffuriau yn 2014, mae cyfanswm o 1,680 o adolygiadau o achosion o wenwyno angheuol gan gyffuriau a 1,637 o achosion o wenwyno heb fod yn angheuol gan gyffuriau wedi’u cynnal yng Nghymru.
- Adolygwyd 211 o achosion angheuol o wenwyno gan gyffuriau yn 2024, sef 73.3 y cant o’r marwolaethau hynny a gofnodwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol
- Mewn 85.7 y cant o achosion â lleoliad marwolaeth hysbys, digwyddodd yr achos o wenwyno gan gyffuriau mewn preswylfa breifat, gyda’r 14.3 y cant o achosion sy’n weddill yn digwydd mewn hostel neu le cyhoeddus.
- Adroddwyd bod 42.3 y cant o unigolion yn byw mewn tai ansicr neu eu bod heb gartref sefydlog (NFA) adeg eu marwolaeth. Lle adroddwyd amdanynt, cyhoeddwyd 88.6 y cant (n=124) o farwolaethau yn y fan a’r lle
- Yn 42.2 y cant o’r achosion a adolygwyd, ni adroddwyd am unrhyw gyswllt hysbys rhwng yr ymadawedig ac unrhyw wasanaethau lleol o ran iechyd a gofal cymdeithasol, neu wasanaethau cyfiawnder troseddol yn y 12 mis cyn y
farwolaeth (n=89). O’r rhain, nid oedd 60.7 y cant (n=54) yn hysbys i unrhyw wasanaethau. Ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael am yr unigolion hyn - Lle adroddwyd am unrhyw gyswllt â gwasanaethau o fewn 12 mis cyn y farwolaeth, roedd gan 95.1 y cant (n=116) hanes o salwch meddwl neu anhwylder seiciatrig wedi’i ddiagnosio
- Adroddwyd ar ganfyddiadau’r crwner ar gyfer 33.2 y cant o achosion angheuol a adolygwyd yn 2024, ac o’r rhain, cadarnhawyd bod 92.9 y cant yn gysylltiedig â chyffuriau.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Cronfa ddata lleihau niwed Cymru - Marwolaethau sy'n Gysylltiedig â Chyffuriau (Adroddiad blynyddol 2025)
PDF, 2MB
Llawrlwytho PDF - Cronfa ddata lleihau niwed Cymru - Marwolaethau sy'n Gysylltiedig â Chyffuriau (Adroddiad blynyddol 2025) (2 MB)
Llawrlwytho PDFAdroddiadau perthnasol
-
Cloddio data Cymru: Y proffil blynyddol ar gyfer camddefnyddio sylweddau 2024 i 2025
Crynodeb Gweithredol Tueddiadau lefel poblogaeth Plant a phobl ifanc (iau na 25 oed) Oedolion 25-49 oed Oedolion hŷn, 50 oed a hŷn
Cyhoeddwyd:
-
Rhaglen Nodwyddau a Chwistrellau Fferylliaeth -Deall newid mewn trafodion rhaglen nodwyddau a chwistrellau o fewn lleoliad fferylliaeth gymunedol
Nid yw hwn yn adolygiad cynhwysfawr o brofiadau holl fferyllfeydd cymunedol Cymru. Fodd bynnag, teimlir bod y sampl yn gynrychioliadol er mwyn llywio dealltwriaeth o’r ffactorau sy’n effeithio ar nifer […]
Cyhoeddwyd: 10fed Ionawr 2024
-
Gweithgarwch Rhaglen Nodwyddau a Chwistrellau yng Nghymru Adroddiad Blynyddol 2025 i 2026
Mae’r adroddiad hwn ar gyfer 2025-26 yn dangos tystiolaeth o’r gostyngiad parhaus a sylweddol yng ngweithgarwch pobl sy’n defnyddio cyffuriau (PWID) sy’n cael mynediad at raglenni nodwyddau a chwistrelliau (NSP) […]
Cyhoeddwyd: 27ain Gorffennaf 2026
-
Rhaglen Nodwyddau a Chwistrellau Arbenigol – Deall newid yn nhrafodion rhaglen nodwyddau a chwistrellau
Mae rhaglenni nodwyddau a chwistrellau (NSP) yn darparu ymyriadau lleihau niwed cynhwysfawr i’r boblogaeth o bobl sy’n defnyddio cyffuriau. Mae darpariaeth NSP yn offeryn hanfodol wrth leihau trosglwyddiad feirysau a […]
Cyhoeddwyd: 27ain Gorffennaf 2026
-
Iechyd Cyhoeddus Cymru Ymchwil a Gwerthuso Adroddiad ar y Prif Uchafbwyntiau 2025 i 2026
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn arwain ac yn cefnogi ymchwil i wella iechyd, lleihau anghydraddoldebau a chryfhau gwasanaethau iechyd y cyhoedd yng Nghymru.
Cyhoeddwyd:
-
Dangosfwrdd iechyd a lles plant ysgolion uwchradd
Cyhoeddiad nesaf: I’w gyhoeddi Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Rhagymadrodd Mae hwn yn ddarn o waith cydweithredol rhwng y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bydd […]
Cyhoeddwyd: 27ain Tachwedd 2025
Setiau data cysylltiedig
-
Data dangosfwrdd iechyd a lles plant ysgolion cynradd
Adolygwyd ddiwethaf: Mehefin 18, 2026
-
Data dangosfwrdd iechyd a lles plant ysgolion uwchradd
Adolygwyd ddiwethaf: Tachwedd 27, 2025