Rhaglen Nodwyddau a Chwistrellau Fferylliaeth -Deall newid mewn trafodion rhaglen nodwyddau a chwistrellau o fewn lleoliad fferylliaeth gymunedol
Awduron: Tîm Camddefnyddio Sylweddau Rhaglen Iechyd Cynhwysiant Clefydau Trosglwyddadwy, Is-adran Diogelu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Cyhoeddwyd ar: 10fed Ionawr 2024
- Mae’r ymchwiliad wedi canfod bod y ffactorau sy’n effeithio ar nifer y trafodion a gofnodwyd ar y Gronfa Ddata Lleihau Niwed (HRD) yn aml-ffactor ac yn amrywio o fewn ac ar draws rhanbarthau’r byrddau iechyd.
- Neges gyson ar draws Cymru yw bod y gofyniad am ystod gynyddol o wasanaethau mewn fferyllfeydd cymunedol yn effeithio ar y capasiti i ddarparu gwasanaethau rhaglen nodwyddau a chwistrellau (NSP).
- Gall ymwybyddiaeth o ddarpariaeth gwasanaeth NSP fod yn gyfyngedig oherwydd diffyg hyrwyddo a hysbysebu’r gwasanaeth. Fodd bynnag, roedd llawer o fferyllfeydd yn awyddus i ddatrys hyn a chael gafael ar sticeri NSP i hysbysebu darpariaeth gwasanaeth.
- Roedd gwybodaeth a hyder staff wrth ddarparu gwasanaethau NSP yn amrywio’n sylweddol o fewn ac ar draws rhanbarthau byrddau iechyd.
- Roedd dulliau o gofnodi trafodion NSP ar yr HRD yn amrywio’n sylweddol ar draws Cymru.
- Gwelwyd cofnodi ar bapur fel hwylusydd a rhwystr.
- Roedd mynediad cyfyngedig i gyfrifiaduron yn atal cofnodi uniongyrchol ar yr HRD mewn rhai fferyllfeydd.
- Roedd ymwybyddiaeth o sut i gael cymorth gyda’r HRD yn amrywio ac yn effeithio’n uniongyrchol ar gofnodi trafodion.
- Roedd ffurfio perthnasoedd cadarnhaol gyda chleientiaid a fynychodd yr NSP yn hwyluso cofnodi trafodion ar yr HRD a darparu offer NSP a chyngor ar leihau niwed.
- Darparodd gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau camddefnyddio sylweddau (SMS) arbenigol rwydwaith cymorth ar gyfer fferyllfeydd a rheolaeth gofal cyfannol ar gyfer y grŵp cleientiaid.
- Mae newidiadau i gyd-destun cymdeithasol cymunedau lleol o ran gostyngiad yn nifer yr achosion dyddiol o driniaethau amnewidion opioid (OST) mewn rhai fferyllfeydd, poblogaeth sy’n heneiddio, ffyrdd o fyw lle mae pobl yn symud yn aml, oriau agor, lleoliad fferyllfeydd a newidiadau mewn tueddiadau o ran defnyddio sylweddau yn effeithio ar nifer y trafodion a gofnodwyd ar yr HRD.
Nid yw hwn yn adolygiad cynhwysfawr o brofiadau holl fferyllfeydd cymunedol Cymru. Fodd bynnag, teimlir bod y sampl yn gynrychioliadol er mwyn llywio dealltwriaeth o’r ffactorau sy’n effeithio ar nifer y trafodion NSP a gofnodwyd ar yr HRD.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Rhaglen Nodwyddau a Chwistrellau Fferylliaeth -Deall newid mewn trafodion rhaglen nodwyddau a chwistrellau o fewn lleoliad fferylliaeth gymunedol
PDF, 338KB
Llawrlwytho PDF - Rhaglen Nodwyddau a Chwistrellau Fferylliaeth -Deall newid mewn trafodion rhaglen nodwyddau a chwistrellau o fewn lleoliad fferylliaeth gymunedol (338 KB)
Llawrlwytho PDFAdroddiadau perthnasol
-
Dangosfwrdd iechyd a lles plant ysgolion uwchradd
Cyhoeddiad nesaf: Haf 2028 Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Rhagymadrodd Mae hwn yn ddarn o waith cydweithredol rhwng y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bydd […]
Cyhoeddwyd: 22ain Hydref 2026
-
Amonaleddau’r ffoetws sy’n gysylltiedig a chamddefnydd y fam o sylweddau: Astudiaeth cyswllt data yng Nghymru
Mae’r ymchwil hon, sy’n canolbwyntio ar anomaleddau’r ffoetws, yn ffurfio rhan o astudiaeth fwy sy’n archwilio effaith rhwng y cenedlaethau camddefnyddio sylweddau ar iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a chyfiawnder troseddol […]
Cyhoeddwyd:
-
Egluro’r data: Archwiliad ac ystyriaethau ansawdd data Cronfa Ddata Genedlaethol Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau (WNDSM)
Mae’r adroddiad Egluro’r Data hwn yn cyflwyno canfyddiadau astudiaeth a gynhaliwyd fel rhan o Gynllun Peilot BOLD ar gyfer Dangos Camddefnyddio Sylweddau (Cam 1) yng Nghymru, sy’n canolbwyntio ar faterion […]
Cyhoeddwyd:
-
Canlyniadau hirdymor pobl sy’n cael eu trin am gamddefnyddio sylweddau yng Nghymru – Astudiaeth cysylltu data
Mae’r gwaith ymchwil hwn yn canolbwyntio ar ganlyniadau hirdymor i bobl sy’n cael eu trin am gamddefnyddio sylweddau yng Nghymru, ac mae’n rhan o astudiaeth ehangach sy’n archwilio rhagfynegyddion ar […]
Cyhoeddwyd:
-
Offeryn Adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd
Rhyddhad cyfredol: 22 Medi 2026Rhyddhad nesaf: 15 Rhagfyr 2026 Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Prif bwyntiau Yn y fersiwn diweddaraf, mae’r dangosyddion canlynol wedi’u diweddaru i gynnwys dadansoddiadau […]
Cyhoeddwyd: 22ain Medi 2026
-
Ymyriadau ataliol sylfaenol ar gyfer camddefnyddio sylweddau: map dystiolaeth
Disgwylir y diweddariad nesaf: Mehefin 2025 Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Mae’r map hwn yn darparu mynediad strwythuredig i gorff diweddar, cadarn o dystiolaeth eilaidd ar ymyriadau i […]
Cyhoeddwyd: 2il Rhagfyr 2024
Setiau data cysylltiedig
-
Data dangosfwrdd iechyd a lles plant ysgolion uwchradd
Adolygwyd ddiwethaf: Hydref 22, 2026
-
Data dangosfwrdd iechyd a lles plant ysgolion cynradd
Adolygwyd ddiwethaf: Mehefin 18, 2026