Rhaglen Nodwyddau a Chwistrellau Arbenigol – Deall newid yn nhrafodion rhaglen nodwyddau a chwistrellau
Awduron: Tîm Camddefnyddio Sylweddau Rhaglen Iechyd Cynhwysiant Clefydau Trosglwyddadwy, Is-adran Diogelu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Cyhoeddwyd ar: 27ain Gorffennaf 2026
Mae rhaglenni nodwyddau a chwistrellau (NSP) yn darparu ymyriadau lleihau niwed cynhwysfawr i’r boblogaeth o bobl sy’n defnyddio cyffuriau. Mae darpariaeth NSP yn offeryn hanfodol wrth leihau trosglwyddiad feirysau a heintiau bacterol a gludir
yn y gwaed trwy roi mynediad at offer chwistrellu di-haint. Mae rhaglenni nodwyddau a chwistrellau hefyd yn darparu cyngor ar leihau niwed mewn perthynas ag atal gorddos, naloxone i’w ddefnyddio gartref, a llwybrau i iechyd a gofal cymdeithasol ehangach.
Mae data o’r Gronfa Ddata Lleihau Niwed (HRD) wedi dangos bod gweithgarwch NSP wedi gostwng yn sylweddol ledled Cymru dros sawl blwyddyn. Fe wnaeth hyn arwain at adolygiad cynhwysfawr o ffactorau cyd-destunol a chymdeithasol sy’n dylanwadu ar weithgarwch NSP. Mae’r adroddiad hwn yn un o dri ac mae’n
canolbwyntio ar ddarpariaeth NSP o safleoedd arbenigol a ddarperir gan sefydliadau statudol a gwasanaethau’r trydydd sector. Mae’r ddau adroddiad arall yn cyflwyno safbwyntiau cyfoedion ar y ffactorau sy’n cyfrannu at ostyngiad mewn
gweithgarwch NSP ac yn archwilio’r ffactorau cymdeithasol a chyd-destunol sy’n dylanwadu ar weithgarwch NSP mewn fferyllfeydd cymunedol.
Mae’r adolygiad hwn yn cwmpasu 95% o safleoedd NSP arbenigol ledled Cymru a chafodd 104 aelod o staff eu cyfweld. Nodwyd y 4 thema allweddol ganlynol:
- Rhwystrau a hwyluswyr sy’n effeithio ar ddefnyddio gwasanaethau NSP arbenigol
- Ffactorau cymdeithasol a chyd-destunol sy’n effeithio ar weithgarwch mewn gwasanaethau NSP
- Angen cynyddol am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol:
Goblygiadau ar gyfer cyflenwi gwasanaethau NSP arbenigol - Mae angen i hyfforddiant y gweithlu gryfhau gwaith cyflenwi
gwasanaethau NSP
Bydd pob thema yn cael ei thrafod yn ei thro.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Rhaglen Nodwyddau a Chwistrellau Arbenigol - Deall newid yn nhrafodion rhaglen nodwyddau a chwistrellau
PDF, 572KB
Llawrlwytho PDF - Rhaglen Nodwyddau a Chwistrellau Arbenigol - Deall newid yn nhrafodion rhaglen nodwyddau a chwistrellau (572 KB)
Llawrlwytho PDFAdroddiadau perthnasol
-
Dangosfwrdd iechyd a lles plant ysgolion uwchradd
Cyhoeddiad nesaf: Haf 2028 Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Rhagymadrodd Mae hwn yn ddarn o waith cydweithredol rhwng y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bydd […]
Cyhoeddwyd: 22ain Hydref 2026
-
Amonaleddau’r ffoetws sy’n gysylltiedig a chamddefnydd y fam o sylweddau: Astudiaeth cyswllt data yng Nghymru
Mae’r ymchwil hon, sy’n canolbwyntio ar anomaleddau’r ffoetws, yn ffurfio rhan o astudiaeth fwy sy’n archwilio effaith rhwng y cenedlaethau camddefnyddio sylweddau ar iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a chyfiawnder troseddol […]
Cyhoeddwyd:
-
Egluro’r data: Archwiliad ac ystyriaethau ansawdd data Cronfa Ddata Genedlaethol Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau (WNDSM)
Mae’r adroddiad Egluro’r Data hwn yn cyflwyno canfyddiadau astudiaeth a gynhaliwyd fel rhan o Gynllun Peilot BOLD ar gyfer Dangos Camddefnyddio Sylweddau (Cam 1) yng Nghymru, sy’n canolbwyntio ar faterion […]
Cyhoeddwyd:
-
Canlyniadau hirdymor pobl sy’n cael eu trin am gamddefnyddio sylweddau yng Nghymru – Astudiaeth cysylltu data
Mae’r gwaith ymchwil hwn yn canolbwyntio ar ganlyniadau hirdymor i bobl sy’n cael eu trin am gamddefnyddio sylweddau yng Nghymru, ac mae’n rhan o astudiaeth ehangach sy’n archwilio rhagfynegyddion ar […]
Cyhoeddwyd:
-
Offeryn Adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd
Rhyddhad cyfredol: 22 Medi 2026Rhyddhad nesaf: 15 Rhagfyr 2026 Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Prif bwyntiau Yn y fersiwn diweddaraf, mae’r dangosyddion canlynol wedi’u diweddaru i gynnwys dadansoddiadau […]
Cyhoeddwyd: 22ain Medi 2026
-
Ymyriadau ataliol sylfaenol ar gyfer camddefnyddio sylweddau: map dystiolaeth
Disgwylir y diweddariad nesaf: Mehefin 2025 Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Mae’r map hwn yn darparu mynediad strwythuredig i gorff diweddar, cadarn o dystiolaeth eilaidd ar ymyriadau i […]
Cyhoeddwyd: 2il Rhagfyr 2024
Setiau data cysylltiedig
-
Data dangosfwrdd iechyd a lles plant ysgolion uwchradd
Adolygwyd ddiwethaf: Hydref 22, 2026
-
Data dangosfwrdd iechyd a lles plant ysgolion cynradd
Adolygwyd ddiwethaf: Mehefin 18, 2026