Pa ymyriadau sy’n effeithiol ac yn gost-effeithiol er mwyn cefnogi iechyd a lles pobl ordew ar restrau aros gofal iechyd? Adolygiad cyflym
Awduron: Gwasanaeth Tystiolaeth, Toby Ayres, Jordan Everitt, Alesha Wale, Chukwudi Okolie, Amy Fox-McNally, Helen Morgan, Hannah Shaw, Jacob Davies, Rhiannon Tudor Edwards, Adrian Edwards, Alison Cooper, Ruth Lewis
Cyhoeddwyd ar: 1af Rhagfyr 2024
Cynhyrchwyd y gwaith hwn fel rhan o gydweithrediad Canolfan Tystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru â Gwasanaeth Tystiolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Cyheoddiad nesaf: Diweddariad heb ei gynllunio
Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth
Cyflwyniad
Mae nifer yr achosion o ordewdra wedi cynyddu’n gyflym yn ystod y degawdau diwethaf ac fe’i hystyrir yn un o’r heriau iechyd cyhoeddus mwyaf arwyddocaol ledled y byd. Yng Nghymru, mae tua un o bob pedwar oedolyn 16 oed ac yn hŷn yn ordew.
Yn GIG y DU, mae ‘pedair haen’ o wasanaethau i gefnogi oedolion sydd dros bwysau ac yn ordew i golli pwysau. Yng Nghymru yn benodol, mae Llwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan. Mae cleifion yn aros hyd at bum mlynedd am wasanaethau haen 3, sy’n cynnig cymorth emosiynol a chorfforol, ac yn cael eu hatgyfeirio i gael llawdriniaeth os oes angen. Mae cleifion sy’n cael eu hatgyfeirio at wasanaethau Haen 3 yn ordew yn ddifrifol neu maen nhw’n ordew ac mae ganddyn nhw gyflyrau meddygol eraill. Mae risg y gall y cleifion hyn waethygu wrth aros i gael eu gweld.
Cynhaliodd yr ymchwilwyr adolygiad cyflym o astudiaethau ymchwil cyhoeddedig. Eu nod oedd dod o hyd i dystiolaeth o ymyriadau a allai atal iechyd a lles cleifion rhag gwaethygu wrth aros am wasanaethau Haen 3. Roedden nhw’n canolbwyntio ar ymyriadau y mae modd eu defnyddio o fewn y cyfyngiadau presennol ar adnoddau gofal iechyd.
Prif bwyntiau
Pa mor gyfredol yw’r dystiolaeth hon?
Chwiliodd yr ymchwilwyr am ymchwil ar y pwnc hwn a oedd yn bodoli eisoes, gan edrych ar astudiaethau a gafodd eu cyhoeddi rhwng 2017 a 2024. Gan nad oedd unrhyw waith ymchwil penodol ar wasanaethau Haen 3, buon nhw’n edrych am ymyriadau i gefnogi oedolion â gordewdra ar unrhyw restr aros.
Beth wnaethom ei ganfod
Adolygodd yr ymchwilwyr saith astudiaeth berthnasol o amrywiaeth o wledydd. Ymhlith y mathau o ymyriadau a gafodd eu hadnabod oedd y canlynol:
- Ymarfer Corff: dangosodd pedair astudiaeth beth tystiolaeth bod ymarfer corff yn gwella ansawdd bywyd a lles meddyliol.
- Cwnsela drwy negeseuon testun, cwnsela addysgol, a chwnsela corfforol: cafodd pob un ei asesu trwy un astudiaeth.
Yn gyffredinol, mae’r hyder yn y canfyddiadau yn isel iawn. Roedd angen offer costus a chael staff gofal iechyd i gyfrannu i gyflawni’r rhan fwyaf o ymyriadau ac nid oedd yr un o’r astudiaethau’n ystyried effeithiolrwydd o ran cost yr ymyriadau.
Ni chanfu’r adolygiad cyflym hwn unrhyw astudiaethau ar ymyriadau ar gyfer pobl ar restrau aros y gellir eu rhoi ar waith o ystyried y gyllideb a’r adnoddau sydd ar gael i wasanaethau rheoli pwysau haen 3 cyffredinol yng Nghymru.
Beth mae hyn yn ei olygu
Mae angen cymhwyso canfyddiadau’r adolygiad hwn yn ofalus. Mae angen astudiaethau mwy cadarn yn y DU sy’n trin a thrafod effeithiolrwydd a’r effeithiolrwydd o ran cost ymyriadau sy’n cefnogi cleifion sy’n aros am wasanaethau rheoli pwysau.
Gwybodaeth dechnegol
Mae ein Hadolygiadau Cyflym yn defnyddio amrywiad ar y dull adolygu systematig, gan dalfyrru neu hepgor rhai cydrannau i gynhyrchu’r dystiolaeth i hysbysu rhanddeiliaid yn brydlon gan gadw sylw at ragfarn ar yr un pryd. Nod yr adolygiad cyflym hwn oedd nodi a syntheseiddio’r dystiolaeth ar gyfer effeithiolrwydd strategaethau graddol er mwyn cefnogi iechyd a lles unigolion ar y rhestrau aros, gyda ffocws ar ymyriadau ymarferol ac effeithlon o ran adnoddau a all gael ei weithredu o fewn cyfyngiadau gofal iechyd.
Rhanddeiliaid
Cafodd y cwestiwn ei gynnig gan Wasanaeth Rheoli Pwysau Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Crynodeb hygyrch wedi’i ysgrifennu gan Praveena Pemmasani, Aelod o’r Grŵp Partneriaeth Gyhoeddus.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Crynodeb Gweithredol: Pa ymyriadau sy’n effeithiol ac yn gost-effeithiol er mwyn cefnogi iechyd a lles pobl ordew ar restrau aros gofal iechyd Adolygiad Cyflym
PDF, 465KB
Llawrlwytho PDF - Crynodeb Gweithredol: Pa ymyriadau sy’n effeithiol ac yn gost-effeithiol er mwyn cefnogi iechyd a lles pobl ordew ar restrau aros gofal iechyd Adolygiad Cyflym (465 KB)
Llawrlwytho PDFAdroddiadau perthnasol
-
Gordewdra, deiet a maeth: adolygiad o adolygiadau
Cyheoddiad nesaf: Diweddariad heb ei gynllunio Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Roedd yr adolygiad hwn yn anelu ateb dau gwestiwn: Prif bwyntiau Pa mor gyfredol yw’r dystiolaeth hon? […]
Cyhoeddwyd: 1af Ionawr 2019
-
Cynllun Gweithredu Atal Gordewdra Gofal Sylfaenol 2022 i 2024
Mae’r cynllun gweithredu dwy flynedd cychwynnol , sy’n cwmpasu mis Ebrill 2022 i fis Mawrth 2024, wedi’i ddylunio i gefnogi’r gwaith o weithredu elfennau sylfaenol a gofal yn y gymuned […]
Cyhoeddwyd: 1af Ebrill 2022
-
Cynllun Gweithredu ar Atal Gordewdra Gofal Sylfaenol — Cynnydd, Myfyrdodau ac Argymhellion
Mae atal gordewdra yn her gymhleth, gyda llawer o ffactorau sy’n cyfrannu yn gweithredu ar lefelau unigol, cymunedol, cymdeithasol a byd-eang. Cydnabyddir bod llawer o randdeiliaid ar y lefel leol […]
Cyhoeddwyd: 1af Tachwedd 2024
-
Canfyddiadau gwerthusiad o ganlyniadau Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan
Mae’r adroddiad byr hwn a gyhoeddwyd gan y Tîm Gwerthuso yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymchwilio i effaith Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan ar lefelau siwgr yn y gwaed a’r […]
Cyhoeddwyd: 2il Mawrth 2026
-
Gwerthuso Dull System Gyfan ar gyfer Pwysau Iach
Mae’r adroddiad hwn yn Gwerthusiad Dull System Gyfan ar gyfer Pwysau Iach
Cyhoeddwyd: 1af Gorffennaf 2025
-
Bwyta’n Iach
Bwyta’n Iach Daeth tua 30 o gydweithwyr Llywodraeth Cymru a system iechyd y cyhoedd ynghyd mewn digwyddiad cenedlaethol wyneb yn wyneb ym mis Hydref 2024 yng Nghaerdydd. Canolbwyntiodd y digwyddiad […]
Cyhoeddwyd: 8fed Mai 2026
Setiau data cysylltiedig
-
Data Offeryn Adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd
Adolygwyd ddiwethaf: Mawrth 18, 2026
-
Crynodeb o dueddiadau mewn ffactorau risg ar gyfer clefydau anhrosglwyddadwy data
Adolygwyd ddiwethaf: Mawrth 20, 2026
-
Data dangosfwrdd iechyd a lles plant ysgolion uwchradd
Adolygwyd ddiwethaf: Tachwedd 27, 2025
-
Tablau data Rhaglen Mesur Plant 2023 i 2024
Adolygwyd ddiwethaf: Mai 20, 2025
-
Siartiau a mapiau Rhaglen Mesur Plant 2023 i 2024
Adolygwyd ddiwethaf: Mai 22, 2025
-
Dangosfwrdd Rhaglen Mesur Plant
Adolygwyd ddiwethaf: Mai 12, 2026