Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Optimeiddio ymchwil iechyd y cyhoedd academaidd yng Nghymru

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 21ain Mai 2025

Mae amgylchedd Ymchwil Iechyd y Cyhoedd Academaidd (APHR) cadarn yng Nghymru yn hanfodol er mwyn mynd i’r afael â’r heriau o ran iechyd y boblogaeth, hyrwyddo arloesedd, a chynorthwyo twf economaidd. Er gwaethaf y ffaith bod hanes cyfoethog o waith ymchwil iechyd y cyhoedd ac amgylchedd polisi ffafriol, mae’r tirlun APHR yng Nghymru yn wynebu heriau o ganlyniad i gapasiti cyfyngedig, llai o gyllid, a diffyg dull gweithredu strategol ar draws y system. Mae dadwneud y duedd ar i lawr hon yn gofyn am strategaeth hirdymor amlweddog yng nghanol y pwysau ariannol ehangach a welir ar draws yr amgylchedd ymchwil yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, nid oes strategaeth gydlynol ar gyfer ymchwil iechyd y cyhoedd yn bodoli yng Nghymru, ac mae hyn yn arwain at sefyllfa dameidiog ac aneffeithlonrwydd. Er bod Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) mewn sefyllfa dda i hwyluso datblygiadau strategol, rhaid i arweinyddiaeth effeithiol gynnwys Llywodraeth Cymru (LlC), y Prif Swyddog Meddygol (CMO) a threfniadau cydweithio gyda Sefydliadau Addysg Uwch (SAU), y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), awdurdodau lleol, a’r trydydd sector hefyd. Bydd canolbwyntio ar gryfderau unigryw a meysydd blaenoriaeth Cymru yn hanfodol er mwyn sicrhau effaith a chynaliadwyedd.

Mae’r adroddiad hwn wedi nodi sawl cyfle ar gyfer APHR yng Nghymru:

  • Cydlynu Strategol: Gallai strategaeth APHR sy’n canolbwyntio ar gryfderau unigryw Cymru ac sy’n cyd-fynd gyda blaenoriaethau iechyd y boblogaeth wella’r gallu i ddenu adnodd a chynyddu cynaliadwyedd ac effaith rhaglenni ymchwil.
  • Datblygu Capasiti: Gall ehangu cyllid cynaliadwy ar gyfer swyddi ymchwil, meithrin gweithgarwch cydweithio rhyngddisgyblaethol, a manteisio ar fentrau LlC ac ar lefel y DU roi hwb i’r seilwaith APHR.
  • Datblygu’r Gweithlu: Mae buddsoddi mewn llwybrau gyrfa, swyddi ar y cyd, a rhaglenni hyfforddi ar gyfer ymchwilwyr sydd newydd gychwyn ar eu gyrfa a gweithwyr

Lawrlwythiadau adroddiadau

Optimeiddio ymchwil iechyd y cyhoedd academaidd yng Nghymru

PDF, 764KB

Llawrlwytho PDF - Optimeiddio ymchwil iechyd y cyhoedd academaidd yng Nghymru (764 KB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig