Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Mewnwelediadau arolwg brechu mamau 2025 

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 10fed Medi 2026

  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Cefndir 

Mae brechu mamau yn ymyriad iechyd y cyhoedd pwysig sy’n helpu i amddiffyn menywod beichiog a’u babanod rhag afiechydon difrifol, gan gynnwys y pas (pertwsis), y ffliw a feirws syncytiol anadlol (RSV).  

Gall brechu yn ystod beichiogrwydd leihau’r risg o salwch difrifol yn y fam a darparu amddiffyniad i fabanod newydd-anedig yn ystod misoedd cyntaf eu bywyd ar yr un pryd, a hynny pan fyddant fwyaf agored i haint. 

Yn dilyn cyflwyno’r rhaglen frechu RSV yng Nghymru yn 2024 ac yng nghyd-destun gostyngiad yn y nifer sy’n cael rhai brechlynnau mamol, cynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru arolwg i fenywod beichiog a menywod a oedd wedi rhoi genedigaeth o fewn y chwe mis blaenorol.  

Edrychodd yr arolwg ar ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o frechu mamau, hyder mewn diogelwch ac effeithiolrwydd brechlynnau, ffynonellau gwybodaeth, mynediad at wasanaethau brechu, a ffactorau a allai ddylanwadu ar benderfyniadau brechu yn ystod beichiogrwydd.  

Bydd y canfyddiadau’n cyfrannu at well dealltwriaeth o brofiadau a safbwyntiau menywod ac yn helpu i lywio gweithgareddau cyfathrebu, ymgysylltu a datblygu gwasanaethau yn y dyfodol sy’n ymwneud â brechu mamau yng Nghymru. 

Cynhaliwyd yr arolwg o fis Medi i fis Rhagfyr 2025 drwy blatfform ar-lein CIVICA. 

Lawrlwythiadau adroddiadau

Ffeithlun mewnwelediadau integredig arolwg beichiogrwydd 2025

PDF, 1MB

Llawrlwytho PDF - Ffeithlun mewnwelediadau integredig arolwg beichiogrwydd 2025 (1 MB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

  • Offeryn Adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd

    Rhyddhad cyfredol: 22 Medi 2026Rhyddhad nesaf: 15 Rhagfyr 2026 Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Prif bwyntiau Yn y fersiwn diweddaraf, mae’r dangosyddion canlynol wedi’u diweddaru i gynnwys dadansoddiadau […]

    Cyhoeddwyd: 22ain Medi 2026

  • Adroddiad chwarterol COVER: Ebrill i Mehefin 2026

    Mae’r adroddiad COVER chwarterol yn crynhoi canran y rhai sy’n cael eu himiwneiddio ymhlith plant yng Nghymru sy’n cyrraedd penblwyddi allweddol rhwng misoedd Ebrill a Mehefin 2026.

    Cyhoeddwyd: 18fed Medi 2026

  • Mewnwelediadau arolwg brechu cyn-ysgol 2025

    Cefndir  Mae cyfraddau brechu plant yng Nghymru wedi gostwng dros y degawd diwethaf, ac mae mwy o darfu wedi bod yn dilyn pandemig COVID-19. Mae sicrhau bod nifer uchel o […]

    Cyhoeddwyd: 10fed Medi 2026

  • Brechiad plentyndod: ymyriadau i gynyddu’r nifer sy’n ei dderbyn

    Disgwylir y diweddariad nesaf: Ionawr 2026 Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Mae’r map hwn yn rhoi mynediad strwythuredig i gorff diweddar, lefel uchel, cadarn o dystiolaeth ar y […]

    Cyhoeddwyd: 31ain Ionawr 2025

  • Brechiad oedolion: ymyriadau i gynyddu’r nifer sy’n ei dderbyn

    Disgwylir y diweddariad nesaf: Ionawr 2026 Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Mae’r map hwn yn darparu mynediad strwythuredig i gorff diweddar, cadarn o dystiolaeth eilaidd ar ymyriadau i […]

    Cyhoeddwyd: 1af Ionawr 2026

  • Mewnwelediadau integedig plant oedran ysgol 2026

    Cefndir Mae brechiadau oedran ysgol ar gael i bob person ifanc yng Nghymru. Rhwng 2023-2026, bu’r tîm yn ymgysylltu â phobl ifanc a chynhyrchu pum adroddiad yn ymdrin ag adnoddau […]

    Cyhoeddwyd:

Yn ôl i'r brig