Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Brechiad oedolion: ymyriadau i gynyddu’r nifer sy’n ei dderbyn

Manylion:

Awduron: Gwasanaeth Tystiolaeth

Cyhoeddwyd ar: 1af Ionawr 2026

Disgwylir y diweddariad nesaf: Ionawr 2026

Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth

Mynediad ein map

Cyflwyniad

Mae’r map hwn yn darparu mynediad strwythuredig i gorff diweddar, cadarn o dystiolaeth eilaidd ar ymyriadau i gynyddu brechu mewn oedolion. Gall ffynonellau sydd wedi’u cynnwys yn y map ddarparu tystiolaeth sy’n mynd i’r afael â’r cwestiwn canlynol: Pa ymyriadau sy’n effeithiol o ran cynyddu’r nifer sy’n cael brechiadau ymhlith oedolion (≥18 oed)?

Prif bwyntiau

Mae ein cyfres o mapiau tystiolaeth ddigidol wedi’u cynllunio i roi mynediad strwythuredig at gorff o dystiolaeth gyfredol, lefel uchel a chadarn ar ystod o bynciau. Maent yn cynnwys ffynonellau tystiolaeth sydd ar frig y ‘pyramid tystiolaeth’ h.y. adolygiadau systematig a gynhaliwyd yn gadarn a chanllawiau sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Eu nod yw rhoi mynediad hawdd i ymarferwyr a’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau at ymchwil ddibynadwy a methodolegol gadarn, y gellir ei defnyddio i helpu i lywio ymarfer a gwneud penderfyniadau.

Mynediad ein map

Gwybodaeth dechnegol

Gwybodaeth am fapiau tystiolaeth

Mae adolygiadau tystiolaeth a chanllawiau sydd wedi’u cynnwys yn y map hwn wedi’u grwpio yn ôl y boblogaeth y maent yn canolbwyntio arni a’r math o ymyriad. Fe’u harddangosir mewn map gwres rhyngweithiol. Gall rhai adolygiadau ymddangos mewn mwy nag un categori os ydynt yn cwmpasu sawl grŵp neu ymyriad.

Rydym wedi cofnodi’r lleoliadau lle cynhaliwyd ymyriadau (er enghraifft, ysgolion neu leoliadau cymunedol) a’r canlyniadau a fesurwyd. Gallwch ddefnyddio’r hidlwyr i gulhau canlyniadau yn ôl lleoliad neu ganlyniad.

Bydd clicio ar flwch yn y map gwres yn dangos rhestr o adolygiadau neu ganllawiau perthnasol. O’r fan honno, gallwch agor tudalen crynodeb ar gyfer pob un. Mae’r crynodebau hyn yn cynnwys gwybodaeth allweddol megis amcanion, darganfyddiadau a chasgliadau, wedi’u cymryd yn uniongyrchol o’r cyhoeddiad gwreiddiol. Nid ydym yn dehongli nac yn dadansoddi’r canfyddiadau hyn ein hunain. Yn hytrach rydym yn eu cyflwyno i’ch helpu i benderfynu a ddylech archwilio’r ffynhonnell lawn.

Sut mae defnyddio’r Map hwn

Mae’r map wedi’i gynllunio i’ch helpu i ddod o hyd i dystiolaeth ymchwil yn gyflym sydd eisoes wedi’i dwyn ynghyd mewn ffordd yr ydym yn ei hystyried yn gadarn yn fethodolegol ac felly a allai fod yn sail fwy dibynadwy i ddechrau meddwl am lywio penderfyniadau. Gall hyn fod yn fan cychwyn defnyddiol wrth ystyried tystiolaeth i lywio penderfyniadau.

Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi’r canlynol:

  • Bod y chwiliadau a ddefnyddir i greu’r map hwn wedi’u targedu, nid ydynt yn gynhwysfawr. Nid yw’r map yn cynnwys yr holl dystiolaeth sydd ar gael.
  • Dylid defnyddio’r adolygiadau a ddangosir fel rhan o strategaeth ehangach ar gyfer casglu tystiolaeth ac nid eu defnyddio’n unig fel sail ar gyfer gwneud penderfyniadau, heb holi ac archwilio ymhellach eu cymhwysedd i Gymru.
  • Dylech ystyried a yw’r dystiolaeth yn berthnasol i’ch cyd-destun lleol, fel Cymru.

Gan mai cyfosod tystiolaeth eilaidd yn unig o ystod gyfyngedig o ffynonellau y mae’r map, dylai defnyddwyr nodi ei bod yn bosib nad oes ymyriadau newydd neu fwy arloesol nad ydynt wedi bod yn destun cyfosod tystiolaeth gadarn eto wedi’u cynnwys chwaith.

Gan mai cyfosod tystiolaeth eilaidd yn unig o ystod gyfyngedig o ffynonellau y mae’r map, dylai defnyddwyr nodi ei bod yn bosib nad oes ymyriadau newydd neu fwy arloesol nad ydynt wedi bod yn destun cyfosod tystiolaeth gadarn eto wedi’u cynnwys chwaith.

Adroddiadau perthnasol

  • Mewnwelediadau arolwg brechu mamau 2025 

    Cefndir  Mae brechu mamau yn ymyriad iechyd y cyhoedd pwysig sy’n helpu i amddiffyn menywod beichiog a’u babanod rhag afiechydon difrifol, gan gynnwys y pas (pertwsis), y ffliw a feirws […]

    Cyhoeddwyd: 10fed Medi 2026

  • Mewnwelediadau arolwg brechu cyn-ysgol 2025

    Cefndir  Mae cyfraddau brechu plant yng Nghymru wedi gostwng dros y degawd diwethaf, ac mae mwy o darfu wedi bod yn dilyn pandemig COVID-19. Mae sicrhau bod nifer uchel o […]

    Cyhoeddwyd: 10fed Medi 2026

  • Brechiad plentyndod: ymyriadau i gynyddu’r nifer sy’n ei dderbyn

    Disgwylir y diweddariad nesaf: Ionawr 2026 Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Mae’r map hwn yn rhoi mynediad strwythuredig i gorff diweddar, lefel uchel, cadarn o dystiolaeth ar y […]

    Cyhoeddwyd: 31ain Ionawr 2025

  • Mewnwelediadau integedig plant oedran ysgol 2026

    Cefndir Mae brechiadau oedran ysgol ar gael i bob person ifanc yng Nghymru. Rhwng 2023-2026, bu’r tîm yn ymgysylltu â phobl ifanc a chynhyrchu pum adroddiad yn ymdrin ag adnoddau […]

    Cyhoeddwyd:

  • Arolwg dal i fyny ar frechiadau pobl ifanc yn eu harddegau dros yr haf 2025

    Cefndir yr arolwg Roedd nifer y plant oed ysgol oedd yn cael eu brechu yn gostwng, felly gofynnwyd i’r byrddau iechyd ddarparu sesiynau dal i fyny yn ystod gwyliau’r haf […]

    Cyhoeddwyd:

  • Offeryn Adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd

    Rhyddhad cyfredol: 17eg Mehefin 2026Rhyddhad nesaf: 22ain Medi 2026 Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Prif bwyntiau Yn yr iteriad hwn mae’r dangosyddion canlynol wedi’u diweddaru: Mae’r tabl canlynol […]

    Cyhoeddwyd: 17eg Mehefin 2026

Yn ôl i'r brig