Animeiddiadau brechlynnau: adroddiad ymchwil a phrofi gyda chynulleidfaoedd
Awduron: Social Change
Cyhoeddwyd ar: 1af Ionawr 2026
- Cymru Gyfan/Cenedlaethol
Enter textMae Rhaglen Frechu yn Erbyn Clefydau Ataliadwy (VPDP) Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) wedi comisiynu gwaith ymchwil yn flaenorol tuag at ddatblygu adnoddau gwybodaeth ynghylch brechu â brechlynnau HPV a ffliw ar gyfer oedran ysgol uwchradd.
O ganlyniad i’r gwaith hwn, casglwyd mewnwelediadau ynghylch y math o fformat, arddull a chynnwys sydd orau gan bobl ifanc, a datblygwyd animeiddiadau ar gyfer pob un o’r brechlynnau hyn. Mae gwaith blaenorol wedi tynnu sylw at y ffaith ei bod yn well gan bobl ifanc adnoddau gwybodaeth clyweledol (animeiddiadau), yn bennaf i’w dangos mewn lleoliadau addysgol fel gwasanaethau ysgol ac ystafelloedd dosbarth, gydag asedau ategol sy’n cynnwys taflenni y gallan nhw wedyn eu rhannu gyda’u rhieni neu eu gwarcheidwaid.
I adeiladu ymhellach ar y mewnwelediadau hyn, comisiynodd ICC Social Change i gynnal grwpiau ffocws gyda phlant ysgol uwchradd ym Mlwyddyn 9 a 10 i lywio gwaith i gyd-gynhyrchu dau animeiddiad arall gydag asedau ategol yn targedu pobl ifanc yn y grŵp oedran hwn. Mae un animeiddiad ac un grŵp ffocws ar y brechiad atgyfnerthu 3-mewn-1 (sydd hefyd yn cael ei alw’n frechlyn Td/IPV), tra bo’r animeiddiad a’r grŵp ffocws arall yn ymwneud â brechlyn MenACWY. Dechreuodd y prosiect cyn gwyliau’r haf i ymgysylltu â myfyrwyr Blwyddyn 9 yn syth ar ôl i’w brechiadau ddigwydd, ond yn dilyn oedi dros gyfnod yr haf, fe ddilynon ni’r garfan hon i mewn i ddechrau Blwyddyn 10 i gofnodi eu profiadau.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Animeiddiadau brechlynnau - adroddiad ymchwil a phrofi gyda chynulleidfaoedd
PDF, 3MB
Llawrlwytho PDF - Animeiddiadau brechlynnau - adroddiad ymchwil a phrofi gyda chynulleidfaoedd (3 MB)
Llawrlwytho PDFAdroddiadau perthnasol
-
Offeryn Adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd
Rhyddhad cyfredol: 22 Medi 2026Rhyddhad nesaf: 15 Rhagfyr 2026 Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Prif bwyntiau Yn y fersiwn diweddaraf, mae’r dangosyddion canlynol wedi’u diweddaru i gynnwys dadansoddiadau […]
Cyhoeddwyd: 22ain Medi 2026
-
Adroddiad chwarterol COVER: Ebrill i Mehefin 2026
Mae’r adroddiad COVER chwarterol yn crynhoi canran y rhai sy’n cael eu himiwneiddio ymhlith plant yng Nghymru sy’n cyrraedd penblwyddi allweddol rhwng misoedd Ebrill a Mehefin 2026.
Cyhoeddwyd: 18fed Medi 2026
-
Mewnwelediadau arolwg brechu mamau 2025
Cefndir Mae brechu mamau yn ymyriad iechyd y cyhoedd pwysig sy’n helpu i amddiffyn menywod beichiog a’u babanod rhag afiechydon difrifol, gan gynnwys y pas (pertwsis), y ffliw a feirws […]
Cyhoeddwyd: 10fed Medi 2026
-
Mewnwelediadau arolwg brechu cyn-ysgol 2025
Cefndir Mae cyfraddau brechu plant yng Nghymru wedi gostwng dros y degawd diwethaf, ac mae mwy o darfu wedi bod yn dilyn pandemig COVID-19. Mae sicrhau bod nifer uchel o […]
Cyhoeddwyd: 10fed Medi 2026
-
Brechiad plentyndod: ymyriadau i gynyddu’r nifer sy’n ei dderbyn
Disgwylir y diweddariad nesaf: Ionawr 2026 Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Mae’r map hwn yn rhoi mynediad strwythuredig i gorff diweddar, lefel uchel, cadarn o dystiolaeth ar y […]
Cyhoeddwyd: 31ain Ionawr 2025
-
Brechiad oedolion: ymyriadau i gynyddu’r nifer sy’n ei dderbyn
Disgwylir y diweddariad nesaf: Ionawr 2026 Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Mae’r map hwn yn darparu mynediad strwythuredig i gorff diweddar, cadarn o dystiolaeth eilaidd ar ymyriadau i […]
Cyhoeddwyd: 1af Ionawr 2026
Setiau data cysylltiedig
-
Derbyniadau i’r ysbyty mewn achosion o heintiau anadlol acíwt (ARI)
Adolygwyd ddiwethaf:
-
Hysbysiadau o glwy’r pennau
Adolygwyd ddiwethaf:
-
Hysbysiadau o rwbela
Adolygwyd ddiwethaf:
-
Dangosfwrdd goruchwiliaeth COVID-19 cyflym Cymru
Adolygwyd ddiwethaf:
-
Goruchwyliaeth brechlyn yr eryr
Adolygwyd ddiwethaf:
-
Data Offeryn Adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd
Adolygwyd ddiwethaf: Medi 22, 2026