Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Adroddiad monitor Cyllun Gwên 2024 i 2025

Mae 32.4% o blant 5 oed yng Nghymru wedi profi pydredd dannedd. Gall plant sy’n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig fod ddwywaith yn fwy tebygol o gael pydredd dannedd ac i gael tair gwaith cymaint o ddannedd wedi’u heffeithio â phydredd. Mae rhaglen Cynllun Gwên yn gweithio i atal pydredd dannedd a lleihau anghydraddoldebau iechyd.

  • Darparwyd hyfforddiant iechyd y geg i 253 o ymwelwyr iechyd a myfyrwyr a 1,570 o weithwyr proffesiynol gofal plant, iechyd a gofal cymdeithasol eraill.
  • Dosbarthwyd 37,333 o becynnau brwsio dannedd cartref a 16,433 o gwpanau hyfforddi bwydo i deuluoedd gan ymwelwyr iechyd yn ystod ymweliadau wedi’u trefnu gan Raglen Plant Iach Cymru.
  • Cymerodd 60,586 o blant ran mewn rhaglen brwsio dannedd dan oruchwyliaeth mewn 667 o feithrinfeydd a 557 o ysgolion. Roedd cyfradd rhieni/gofalwyr yn cydsynio i gymryd rhan ar gyfartaledd yn 88%.
  • Derbyniodd 4,012 o staff meithrinfeydd ac ysgolion hyfforddiant gan y tîm Cynllun Gwên i gyflwyno eu rhaglen brwsio dannedd.
  • Cynhaliwyd 3891 o ymweliadau sicrhau ansawdd yn ystod y flwyddyn, ac adroddodd 82% o leoliadau eu bod yn brwsio bob diwrnod Ysgol.
  • Dosbarthwyd 164,678 o becynnau brwsio dannedd cartref mewn meithrinfeydd ac ysgolion i blant a oedd yn cymryd rhan yn y Cynllun Gwên, i annog brwsio dannedd ddwywaith y dydd gartref.
  • Hwylusodd 677 o leoliadau ymweliadau gan weithwyr proffesiynol deintyddol Cynllun Gwên i roi farnais fflworid ar ddannedd plant.
  • Derbyniodd 30,614 o blant farnais fflwroid ddwywaith yn ystod y flwyddyn, a derbyniodd 12,228 o blant farnais fflwroid unwaith. Roedd cyfradd rhieni/gofalwyr yn cydsynio i gymryd rhan ar gyfartaledd yn 77%.

Adroddiadau perthnasol

Ni chanfuwyd adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig