Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Adroddiad monitro’r Cynllun Gwên 2025 i 2026

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 12fed Tachwedd 2026

Mae 27.2% o blant 5 oed yng Nghymru wedi profi pydredd dannedd. Gall plant sy’n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig fod yn fwy tebygol o gael pydredd dannedd ac i gael dwywaith gymaint o ddannedd wedi’u heffeithio â phydredd. Mae rhaglen y Cynllun Gwên yn gweithio i atal pydredd dannedd a lleihau anghydraddoldebau iechyd.

  • Darparwyd hyfforddiant iechyd y geg i 375 o ymwelwyr iechyd a myfyrwyr a 921o weithwyr proffesiynol gofal plant, iechyd a gofal cymdeithasol eraill.
  • Dosbarthwyd 33,372 o becynnau brwsio dannedd cartref a 11,626 o gwpanau hyfforddi bwydo i deuluoedd gan ymwelwyr iechyd yn ystod ymweliadau wedi’u trefnu gan Raglen Plant Iach Cymru.
  • Cymerodd 58,206 o blant ran mewn rhaglen brwsio dannedd dan oruchwyliaeth mewn 677 o feithrinfeydd a 537 o ysgolion. Roedd cyfradd rhieni/gofalwyr yn cydsynio i gymryd rhan ar gyfartaledd yn 88%.
  • Derbyniodd 3,566 o staff meithrinfeydd ac ysgolion hyfforddiant gan dîm y Cynllun Gwên i gyflwyno eu rhaglen brwsio dannedd.
  • Cynhaliwyd 3,803 o ymweliadau sicrhau ansawdd yn ystod y flwyddyn, ac adroddodd 80% o leoliadau eu bod yn brwsio bob diwrnod ysgol.
  • Dosbarthwyd 162,939 o becynnau brwsio dannedd cartref mewn meithrinfeydd ac ysgolion i blant a oedd yn cymryd rhan yn y Cynllun Gwên, i annog brwsio dannedd ddwywaith y dydd gartref.
  • Hwylusodd 694 o leoliadau ymweliadau gan weithwyr proffesiynol deintyddol y Cynllun Gwên i roi farnais fflworid ar ddannedd plant.
  • Derbyniodd 30,148 o blant farnais fflworid ddwywaith yn ystod y flwyddyn, a derbyniodd 11,860 o blant farnais fflworid unwaith. Roedd cyfradd rhieni/gofalwyr yn cydsynio i gymryd rhan ar gyfartaledd yn 75%.

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Yn ôl i'r brig