Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Mewnwelediadau arolwg brechu cyn-ysgol 2025

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 10fed Medi 2026

  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Cefndir 

Mae cyfraddau brechu plant yng Nghymru wedi gostwng dros y degawd diwethaf, ac mae mwy o darfu wedi bod yn dilyn pandemig COVID-19. Mae sicrhau bod nifer uchel o bobl yn cael eu brechu yn hanfodol i amddiffyn plant rhag clefydau difrifol y gellir eu hatal drwy frechu ac i leihau anghydraddoldebau iechyd. Er mwyn cefnogi adferiad a gwella’r nifer sy’n cael eu brechu, mae’n bwysig deall pa mor hyderus y mae rhieni yn teimlo am frechlynnau, eu profiadau o gael mynediad at wasanaethau imiwneiddio, a’u gallu i gael mynediad at wybodaeth glir, gywir a dibynadwy. 

I lywio’r gwaith hwn, fe wnaethom ddatblygu arolwg i archwilio ymwybyddiaeth, agweddau, profiadau ac anghenion gwybodaeth rhieni yn ymwneud â’r rhaglen imiwneiddio rheolaidd i blant yng Nghymru.  

Rhoddodd y canfyddiadau fewnwelediad gwerthfawr i ymwybyddiaeth, agweddau a phrofiadau rhieni o frechu plant, a fydd yn helpu i wella dealltwriaeth o’r ffactorau a all ddylanwadu ar benderfyniadau brechu. Gall y mewnwelediadau hyn helpu i lywio gweithgareddau cyfathrebu, ymgysylltu a gwella gwasanaethau yn y dyfodol sydd â’r nod o gefnogi mynediad teg at wybodaeth a gwasanaethau imiwneiddio ledled Cymru. 

Cynhaliwyd yr arolwg o fis Medi i fis Rhagfyr 2025 drwy blatfform ar-lein CIVICA ac roedd ar gyfer rhieni/gofalwyr plant 0-5 oed.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Ffeithlun mewnwelediadau integredig arolwg cyn-ysgol 2025

PDF, 1MB

Llawrlwytho PDF - Ffeithlun mewnwelediadau integredig arolwg cyn-ysgol 2025 (1 MB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig