Strategaeth tegwch ym maes sgrinio 2025 i 2031
Cyhoeddwyd ar: 18fed Awst 2026
Crynodeb gweithredol
Ein gweledigaeth yw y gall pawb yng Nghymru sy’n gymwys i gael eu sgrinio gael mynediad at eu prawf sgrinio’n hawdd a bod ganddyn nhw gyfle teg i gymryd rhan. Rydym eisiau i bobl gael gwybodaeth glir a dibynadwy fel y gallant wneud y dewis sy’n iawn iddyn nhw.
Mae’r strategaeth hon yn nodi sut y byddwn yn cydweithio â Byrddau Iechyd Lleol, y sector cymunedol a gwirfoddol, a phobl ledled Cymru drwy gydol eu bywyd i wneud i hyn ddigwydd. Mae’n adeiladu ar ein Strategaeth Tegwch ym maes Sgrinio 2022-20251 flaenorol ac yn ystyried trafodaethau byrddau ac ymgysylltu â phobl sy’n ymwneud â darparu sgrinio a phobl sy’n derbyn sgrinio i ddarganfod pa gamau y gallwn eu cymryd a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl Cymru.
I chwalu rhwystrau a chau’r bwlch, nid yw cynnig yr un gwasanaeth i bawb yn ddigon. Os oes gan bobl anghenion ychwanegol, yna mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn cynnig cefnogaeth ychwanegol iddyn nhw er mynediad a deilliannau teg. Yn aml, y bobl nad ydynt yn derbyn ein cynnig sgrinio pan gânt eu gwahodd gyntaf yw’r bobl sydd fwyaf mewn perygl o gael y cyflyrau a’r clefydau rydym yn sgrinio amdanynt. Er mwyn lleihau annhegwch sgrinio, mae angen i ni ganolbwyntio ar gamau gweithredu a fydd yn helpu ein gwasanaethau i ddarparu ar gyfer pawb, fel y gallwn greu Cymru lle mae gan bawb gyfle teg i fyw’n dda a byw’n hirach mewn iechyd da. Mae’r strategaeth hon yn canolbwyntio ar ein rhaglenni sgrinio presennol a sut rydym yn eu cyflwyno. Byddai disgwyl y byddai unrhyw raglenni sgrinio yn y dyfodol hefyd yn cyd-fynd â’r egwyddorion hyn.
Nododd ein strategaeth flaenorol bum maes gweithredu allweddol. Yn y strategaeth newydd hon, rydym wedi adnewyddu ac ail-lunio’r meysydd gweithredu allweddol hyn ar gyfer cam nesaf ein gwaith. Y meysydd gweithredu allweddol yw:
- Datblygu a rhannu gwybodaeth hygyrch
- Gweithio gyda’n gilydd
- Defnyddio ein gwasanaethau
- Dysgu, hyfforddiant a datblygiad
- Monitro a gwerthuso effaith
Er mwyn cyflawni’r meysydd gweithredu allweddol, byddwn yn:
Datblygu a rhannu gwybodaeth hygyrch
- Lle bo modd, ymgysylltu a chyd-gynhyrchu gwybodaeth syml a hawdd ei deall am sgrinio mewn amrywiaeth o fformatau hygyrch fel y gall pobl benderfynu a ydynt am dderbyn eu cynnig sgrinio.
- Anelu at ddiwallu anghenion cyfathrebu ac iaith pobl gyda gwybodaeth yn eu dewis fformat.
- Symud i ddull digidol yn gyntaf i gyfathrebu â phobl.
Gweithio gyda’n gilydd
- Gweithio gyda thimau gofal sylfaenol ac iechyd y cyhoedd yn y Byrddau Iechyd i wneud yn siŵr bod pobl yn cael eu cefnogi i fanteisio ar eu cynnig sgrinio
- Gweithio gyda chymunedau a phartneriaid sector cymunedol a gwirfoddol i wneud yn siŵr bod gan bawb wybodaeth ddibynadwy am sgrinio
- Cyflwyno hyfforddiant ymwybyddiaeth o sgrinio a chefnogi rhwydweithiau tegwch ym maes sgrinio
Defnyddio ein gwasanaethau
- Cynllunio ein gwasanaethau gyda thegwch a chanolbwyntio ar yr unigolyn fel egwyddorion craidd i wella hygyrchedd canolfannau sgrinio
- Datblygu cynnig apwyntiadau sgrinio sy’n fwy hyblyg a darparu ffyrdd hygyrch i bobl newid eu hapwyntiadau gyda’r nod o gyflwyno dulliau ar-lein o drefnu apwyntiad
- Datblygu awgrymiadau a chefnogaeth i bobl ar hyd y llwybr sgrinio a all gynnwys cyfathrebu sy’n ystyriol o ymddygiad, negeseuon testun ar gyfer hysbysiadau a galwadau ffôn wedi’u targedu ar gyfer y rhai nad ydynt yn ymateb
Dysgu, hyfforddiant a datblygiad
- Cefnogi’r system sgrinio i feithrin ei gwybodaeth a’i sgiliau i sicrhau bod nifer teg yn cael eu sgrinio
- Datblygu gweithlu sgrinio sy’n deall grwpiau sydd heb eu sgrinio’n ddigonol a’r ffordd orau o gynnig cefnogaeth
- Profi a gwerthuso ymyriadau newydd i gynyddu nifer y bobl sy’n cael eu sgrinio a lleihau annhegwch ym maes sgrinio, gan fod yn arloesol wrth dreialu syniadau newydd
Monitro a gwerthuso ein heffaith
- Gwella ein gwaith cipio data i gynyddu ein dealltwriaeth o boblogaethau sydd heb eu sgrinio’n ddigonol
- Rhannu data i nodi lle mae nifer isel o bobl yn cael eu sgrinio a monitro effaith camau gweithredu i wella nifer y bobl sy’n cael eu sgrinio
- Darparu adroddiadau rheolaidd a phrydlon ar berfformiad sgrinio
Bydd cyflawni tegwch ym maes sgrinio yn cymryd amser a bydd angen iddo fod yn faes gweithredu parhaus y tu hwnt i amserlen y strategaeth hon. Fodd bynnag, rydym am weld cynnydd tuag at gyflawni ein gweledigaeth, sef y gall pawb yng Nghymru sy’n gymwys i gael eu sgrinio gael eu prawf sgrinio yn hawdd a chael cyfle teg i gymryd rhan. Drwy gyflawni’r ymrwymiadau allweddol a amlinellir yn y strategaeth, byddwn yn gwneud cynnydd wrth gyflawni’r weledigaeth hon. Byddwn nawr yn rhoi’r strategaeth ar waith gyda Chynllun Gweithredu Tegwch yr Is-adran Sgrinio, i’w gyflawni gan yr Is-adran Sgrinio. Bydd hwn yn nodi pa gamau y mae angen i ni eu cymryd, pwy fydd yn eu gwneud ac erbyn pryd.
Mae’r Strategaeth Tegwch ym maes Sgrinio newydd hon yn uchelgeisiol. Mae’n gofyn am gamau pwrpasol ac ymroddedig o fewn yr Is-adran Sgrinio ond hefyd cefnogaeth gan ein partneriaid ar draws y system sgrinio ehangach. Ond, drwy gydweithio, gallwn chwalu rhwystrau a chau’r bwlch tegwch ym maes sgrinio.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Strategaeth tegwch ym maes sgrinio 2025 i 2031
PDF, 1MB
Llawrlwytho PDF - Strategaeth tegwch ym maes sgrinio 2025 i 2031 (1 MB)
Llawrlwytho PDFAdroddiadau perthnasol
-
Adroddiad Anghydraddoldeb Sgrinio 2024 a 2025
Crynodeb gweithredol Cefndir Ar draws y rhaglenni sgrinio cenedlaethol yng Nghymru ein gweledigaeth yw bod pawb sy’n gymwys i gael eu sgrinio yn cael mynediad cyfartal a chyfle i fanteisio […]
Cyhoeddwyd: 18fed Awst 2026
-
Tu hwnt i’r rhwystr – Agweddau cyhoeddus a phroffesiynol at ddefnyddio menig ansterilaidd yn lleoliadau gofal iechyd Cymru
Mae’r adroddiad hwn yn archwilio agweddau tuag at fagiau un defnydd nad ydynt yn steril (a gyfeirir ati fel menig yma ymlaen) mewn lleoliadau gofal iechyd ledled Cymru, yn enwedig […]
Cyhoeddwyd: 16eg Mehefin 2026
-
Sgrinio’r boblogaeth ar gyfer retinopathi diabetig heb mydriasis: adolygiad cwmpasu
Cyheoddiad nesaf: Diweddariad heb ei gynllunio Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Mae retinopathi diabetig yn gymhlethdod cyffredin i bobl sydd â diabetes. Gan fod lefelau diabetes yn cynyddu […]
Cyhoeddwyd: 1af Ebrill 2026
-
Adolygiad cyflym o rwystrau a hwyluswyr manteisio ar sgrinio am ganser mewn poblogaethau sydd heb eu gwasanaethu’n ddigonol
Cynhyrchwyd y gwaith hwn fel rhan o gydweithrediad Canolfan Tystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru â Gwasanaeth Tystiolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cyheoddiad nesaf: Diweddariad heb ei gynllunio Cysylltwch ar gyfer […]
Cyhoeddwyd: 1af Mehefin 2022
-
Adroddiad blynyddol adran sgrinio 2018-19
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno’r data diweddaraf sydd ar gael am y rhaglenni sgrinio dros flwyddyn ariannol 2018/2019. Mae’r naratif yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â’r rhaglenni sydd wedi’i diweddaru […]
Cyhoeddwyd: 1af Ionawr 2020
-
Adroddiad blynyddol adran sgrinio 2017-18
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno’r data diweddaraf sydd ar gael am y rhaglenni sgrinio dros flwyddyn ariannol 2017/2018. Mae’r naratif yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â’r rhaglenni sydd wedi’i diweddaru […]
Cyhoeddwyd: 1af Ionawr 2019