Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Rhaglen Nodwyddau a Chwistrellau Fferylliaeth -Deall newid mewn trafodion rhaglen nodwyddau a chwistrellau o fewn lleoliad fferylliaeth gymunedol

Manylion:

Awduron: Tîm Camddefnyddio Sylweddau Rhaglen Iechyd Cynhwysiant Clefydau Trosglwyddadwy, Is-adran Diogelu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Cyhoeddwyd ar: 10fed Ionawr 2024

  • Mae’r ymchwiliad wedi canfod bod y ffactorau sy’n effeithio ar nifer y trafodion a gofnodwyd ar y Gronfa Ddata Lleihau Niwed (HRD) yn aml-ffactor ac yn amrywio o fewn ac ar draws rhanbarthau’r byrddau iechyd.
  • Neges gyson ar draws Cymru yw bod y gofyniad am ystod gynyddol o wasanaethau mewn fferyllfeydd cymunedol yn effeithio ar y capasiti i ddarparu gwasanaethau rhaglen nodwyddau a chwistrellau (NSP).
  • Gall ymwybyddiaeth o ddarpariaeth gwasanaeth NSP fod yn gyfyngedig oherwydd diffyg hyrwyddo a hysbysebu’r gwasanaeth. Fodd bynnag, roedd llawer o fferyllfeydd yn awyddus i ddatrys hyn a chael gafael ar sticeri NSP i hysbysebu darpariaeth gwasanaeth.
  • Roedd gwybodaeth a hyder staff wrth ddarparu gwasanaethau NSP yn amrywio’n sylweddol o fewn ac ar draws rhanbarthau byrddau iechyd.
  • Roedd dulliau o gofnodi trafodion NSP ar yr HRD yn amrywio’n sylweddol ar draws Cymru.
    • Gwelwyd cofnodi ar bapur fel hwylusydd a rhwystr.
    • Roedd mynediad cyfyngedig i gyfrifiaduron yn atal cofnodi uniongyrchol ar yr HRD mewn rhai fferyllfeydd.
    • Roedd ymwybyddiaeth o sut i gael cymorth gyda’r HRD yn amrywio ac yn effeithio’n uniongyrchol ar gofnodi trafodion.
  • Roedd ffurfio perthnasoedd cadarnhaol gyda chleientiaid a fynychodd yr NSP yn hwyluso cofnodi trafodion ar yr HRD a darparu offer NSP a chyngor ar leihau niwed.
  • Darparodd gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau camddefnyddio sylweddau (SMS) arbenigol rwydwaith cymorth ar gyfer fferyllfeydd a rheolaeth gofal cyfannol ar gyfer y grŵp cleientiaid.
  • Mae newidiadau i gyd-destun cymdeithasol cymunedau lleol o ran gostyngiad yn nifer yr achosion dyddiol o driniaethau amnewidion opioid (OST) mewn rhai fferyllfeydd, poblogaeth sy’n heneiddio, ffyrdd o fyw lle mae pobl yn symud yn aml, oriau agor, lleoliad fferyllfeydd a newidiadau mewn tueddiadau o ran defnyddio sylweddau yn effeithio ar nifer y trafodion a gofnodwyd ar yr HRD.

Nid yw hwn yn adolygiad cynhwysfawr o brofiadau holl fferyllfeydd cymunedol Cymru. Fodd bynnag, teimlir bod y sampl yn gynrychioliadol er mwyn llywio dealltwriaeth o’r ffactorau sy’n effeithio ar nifer y trafodion NSP a gofnodwyd ar yr HRD.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Rhaglen Nodwyddau a Chwistrellau Fferylliaeth -Deall newid mewn trafodion rhaglen nodwyddau a chwistrellau o fewn lleoliad fferylliaeth gymunedol

PDF, 338KB

Llawrlwytho PDF - Rhaglen Nodwyddau a Chwistrellau Fferylliaeth -Deall newid mewn trafodion rhaglen nodwyddau a chwistrellau o fewn lleoliad fferylliaeth gymunedol (338 KB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Yn ôl i'r brig