Gwaith teg ar gyfer iechyd, lles a thegwch – beth ddylem ni ei wneud? Argymhellion gan banel arbenigol
Gwybodaeth am y digwyddiad
Daeth y digwyddiad i ben
- Dyddiad
- Amser
- -
- Lleoliad
- Ar-lein
Ynglŷn â'r digwyddiad hwn
aMae natur gwaith yn effeithio arnom ni i gyd, a gall naill ai fod yn rhan o’r ateb i Gymru iachach, fwy cyfartal, neu gall gyfrannu at straen seicolegol, salwch a marwolaeth gynnar. Yn y weminar hon byddwch yn clywed arbenigwyr o banel yn trafod yr hyn y gall asiantaethau lleol a rhanbarthol ei wneud i ddylanwadu ar waith teg i gynorthwyo iechyd, tegwch, busnes da a’r economi ehangach.
Cadeiriwyd y Panel gan yr Athro Ceri Phillips, Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac roedd yn cynnwys yr aelodau panel a ganlyn:
- Yr Athro Alan Felstead, Athro Ymchwil, Prifysgol Caerdydd
- Dr Amanda Shriwise, Ymgynghorydd Polisi, Swyddfa Fenis WHO a Chymrawd Ymchwil Prifysgol Bremen
- Mary-Ann McKibben, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru/Cymru Iach ar Waith
- Rhianydd Williams, Swyddog Tegwch a Pholisi, TUC
- Sue Husband OBE, Cyfarwyddwr Busnes yn y Gymuned Cymru
Trafododd aelodau’r panel eu safbwyntiau ar ganfyddiadau eu gwaith ar Adroddiad Gwaith Teg ar gyfer Iechyd, Lles a Thegwch. Yn ogystal, gellir dod o hyd i fwy o adnoddau yma
Fideo digwyddiad
Gwerthuso digwyddiad