Neidio i'r cynnwys
Loading Events

Creu lleoedd a mannau iach: dull cydweithredol

Gwybodaeth am y digwyddiad

Daeth y digwyddiad i ben

Dyddiad
Amser
-
Lleoliad
Ar-lein
Creu lleoedd a mannau iach: dull cydweithredol

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Cynhaliwyd y digwyddiad yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad – “Mwyafu cyfleoedd iechyd a lles mewn cynllunio gofodol wrth ailsefydlu yn sgîl y pandemig COVID-19” a nododd sut mae cydweithio rhwng cynllunio gofodol ac iechyd yn hanfodol er mwyn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd iechyd a lles wrth adfer ar ôl pandemig COVID-19. Cyflwynodd y digwyddiad ganfyddiadau’r adroddiad hwn.

Amlygodd nifer o gyflwyniadau sut y gellir cydgysylltu cynllunio ac iechyd. Ymdriniodd siaradwyr â’r materion cyfredol sy’n wynebu ein cymunedau a’n lleoedd, pwysigrwydd cydweithio, dylunio ar gyfer plant a chreu lleoedd iach i bawb ac enghraifft o ymgysylltu rhwng cenedlaethau ar brosiect cynllunio a dylunio.

Amcanion y digwyddiad oedd:

  • Deall yr heriau mawr sy’n wynebu cymunedau gan gynnwys effeithiau pandemig COVID-19
  • Deall y cyfraniad y gall cynllunio a chreu lleoedd ei wneud i fynd i’r afael â’r heriau iechyd mawr sy’n wynebu cymunedau.
  • Dangos technegau i gynllunwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol ymgysylltu’n effeithiol â chymunedau lleol er mwyn gwneud y mwyaf o ganlyniadau dysgu gwaith creu lleoedd:
  • Mwy o gydweithio rhwng gweithwyr iechyd proffesiynol a chynllunwyr
  • Mwy o wybodaeth am sut y gall gweithio ar y cyd arwain at ddatblygu lleoedd a mannau iach
  • Archwilio a chryfhau cyfleoedd a rolau wrth greu lleoedd newydd, gan ddefnyddio offer a chanllawiau i ddarparu’r manteision mwyaf posibl i gymunedau

Cadeiriwyd y digwyddiad gan Kate Eden, Is-gadeirydd, Iechyd Cyhoeddus Cymru. Dywedodd Kate ‘Roedd yn wych gweld cynifer o bobl yn bresennol, a oedd am ddysgu rhagor am y cyfleoedd a’r potensial ar gyfer gweithio cydgysylltiedig rhwng cynllunwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol. Roedd y cynrychiolwyr yn gallu clywed rhai enghreifftiau o ble y gwneir hyn yn effeithiol, a hefyd yn cymryd rhan mewn trafodaethau am adnoddau a fydd yn eu cefnogi wrth iddynt fwrw ymlaen â’r gwaith hwn ledled Cymru’.

Event videos

  • Creu lleoedd a mannau iach: dull cydweithredol - pob cyflwyniad

  • Creu lleoedd a mannau iach: dull cydweithredol - Michael Chang a Liz Green

  • Creu lleoedd a mannau iach: dull cydweithredol - Lydia Orford

  • Creu lleoedd a mannau iach: dull cydweithredol - Tim Gill

  • Creu lleoedd a mannau iach: dull cydweithredol - Sophie Paterson

Cyflwyniad digwyddiad

Creu lleoedd a mannau iach: dull cydweithredol | Post Event Summary Welsh

PDF, 773KB

Llawrlwytho PDF - Creu lleoedd a mannau iach: dull cydweithredol | Post Event Summary Welsh (773 KB)

Llawrlwytho

Gwerthuso digwyddiad