Newid Hinsawdd, Safbwynt Cymru
Gwybodaeth am y digwyddiad
Daeth y digwyddiad i ben
- Dyddiad
- Amser
- -
- Lleoliad
- Ar-lein
Ynglŷn â'r digwyddiad hwn
Newid hinsawdd yw’r bygythiad byd-eang mwyaf i iechyd y mae’r byd yn ei wynebu yn yr 21ain ganrif ac mae’n effeithio ar lawer o benderfynyddion cymdeithasol ac amgylcheddol iechyd – aer glân, dŵr yfed diogel, bwyd digonol a lloches diogel.
Cynhaliwyd y weminar hon ar ddydd Iau 11 Tachwedd am 14:00 oedd yn cyd-fynd â 26ain Cynhadledd Partïon y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (COP26) oedd yn cael ei chynnal yn Glasgow ar 31 Hydref – 12 Tachwedd 2021.
Yn y weminar hon, clywsom gan Jonathan Tench o Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a roddodd drosolwg o’r hyn y mae Cymru’n ei wneud ar lefel Genedlaethol yn amlygu rhai o’r gweithredoedd cadarnhaol yng Nghymru ac yn dangos sut mae prosiectau lleol yn chwarae eu rhan yn mynd i’r afael â newid hinsawdd.
Rhoddodd Nerys Edmonds o Iechyd Cyhoeddus Cymru drosolwg byr o’r Asesiad o Effaith Newid Hinsawdd ar Iechyd oedd i gael ei gyhoeddi ar ddiwedd y flwyddyn. Esboniodd Nerys rôl Iechyd Cyhoeddus Cymru ac archwiliodd yr effeithiau ar iechyd a lles y mae angen mynd i’r afael â nhw wrth gynllunio ar gyfer ac ymateb i newid hinsawdd.
Fideo digwyddiad
Gwerthuso digwyddiad