Neidio i'r cynnwys
Loading Events

Gwneud y gorau o gyfleoedd ar gyfer llesiant meddyliol ar draws polisïau a gwasanaethau gan ddefnyddio Asesiad o’r Effaith ar Lesiant Meddyliol

Gwybodaeth am y digwyddiad

Daeth y digwyddiad i ben

Dyddiad
Amser
-
Lleoliad
Ar-lein
Informational Welsh poster about MWIA (Impact Assessment of Mental Health). Left side shows a circular concentric diagram with a green inner circle and blue outer rings, labeled in Welsh. Right side has three color‑coded information boxes (green, blue, purple) with Welsh explanations of phases or concepts related to the assessment.

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Roedd y dosbarth meistr hwn yn canolbwyntio ar y broses o Asesu’r Effaith ar Les Meddyliol (MWIA), beth ydyw, a sut y gellir ei ddefnyddio i hyrwyddo a diogelu lles meddwl ac ysgogi Iechyd Meddwl a Lles ym mhob dull Polisi. Roedd y gweminar yn cynnwys astudiaethau achos o MWIAs ac yn rhoi cyfleoedd i’r cyfranogwyr ofyn cwestiynau, trafod y dull gweithredu a chyfrannu at gynlluniau ar gyfer datblygu MWIA yn y dyfodol.

Canlyniadau Dysgu

  • Deall y ffactorau sy’n hyrwyddo ac yn diogelu llesiant meddyliol a sut y gallant gael eu dylanwadu gan wahanol bolisïau, sectorau a lleoliadau.
  • Gwybod sut mae Asesiad o’r Effaith ar Lesiant Meddyliol wedi’i gymhwyso i wahanol sefyllfaoedd sefydliadol a pholisi.
  • Deall y canlyniadau a’r buddion o ddefnyddio Asesiad o’r Effaith ar Lesiant Meddyliol.
  • Gwybod y sgiliau, yr offer a’r wybodaeth sydd eu hangen i ddefnyddio Asesiad o’r Effaith ar Lesiant Meddyliol.
  • Cyflwyno’r achos dros ddull ‘Iechyd a Llesiant Meddyliol ym mhob Polisi’ fel rhan o wneud penderfyniadau a deall sut mae hyn yn cyd-fynd â chyd-destun polisi Cymru, er enghraifft, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, Dangosyddion Llesiant Cenedlaethol a thu hwnt.

Y dosbarth meistr rhagarweiniol rhyngweithiol hwn yw’r cyntaf yng nghyfres o ddigwyddiadau Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n gysylltiedig â llesiant meddyliol yr hydref hwn.

Fideo digwyddiad

Cyflwyniad digwyddiad

Asesiad o'r Effaith ar Lesiant Meddyliol - Dosbarth Meistr

PDF, 4MB

Llawrlwytho PDF - Asesiad o'r Effaith ar Lesiant Meddyliol - Dosbarth Meistr (4 MB)

Llawrlwytho

Gwerthuso digwyddiad