Dosbarth Meistr – Masnach ac Iechyd Rhyngwladol
Gwybodaeth am y digwyddiad
Daeth y digwyddiad i ben
- Dyddiad
- Amser
- -
- Lleoliad
- Ar-lein
Ynglŷn â'r digwyddiad hwn
Gall effaith masnach rhyngwladol, iechyd ariannol ac economïau byd-eang gael effaith hir a pharhaus ar iechyd y boblogaeth, fel yr ydym wedi gweld yn ddiweddar yn ystod pandemig COVID-19 a’r gwrthdaro parhaus presennol yn Wcráin.
Rhoddodd Dr Courtney McNamara o Brifysgol Newcastle a Liz Green o Iechyd Cyhoeddus Cymru ddosbarth meistr 90 munud ar iechyd a masnach. Roedd y dosbarth meistr yn cynnwys cyflwyniadau a thrafodaeth holi ac ateb ryngweithiol yn edrych ar effeithiau Cytundeb Cynhwysfawr a Chynyddol ar gyfer Partneriaeth Traws-Pasiffig (CPTPP) ar Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru, a phwy a sut y gallai pobl gael eu heffeithio.
Rhoddodd y Dosbarth Meistr ddealltwriaeth i’r cyfranogwyr o’r canlynol:
- Pam mae cytundebau masnach yn bwysig i iechyd a lles ar draws amrywiaeth eang o sectorau a lleoliadau, e.e. bwyd a’r economi.
- Pam mae cytundebau masnach yn bwysig i amrywiaeth eang o grwpiau o’r boblogaeth a sut maent yn byw, ac yn fforddio byw.
- Pam mae angen i Iechyd y Cyhoedd ddiweddaru eu gwybodaeth am bolisi masnach er mwyn i swyddogion allu eirioli dros iechyd.
- Y broses Asesu’r Effaith ar Iechyd mewn perthynas â’r CPTPP, er enghraifft rheoliadau amgylcheddol, safonau bwyd, cost a chyflenwad nwyddau.
Fideo digwyddiad
Gwerthuso digwyddiad