Cymryd camau mewn perthynas â’r argyfwng costau byw yng Nghymru
Gwybodaeth am y digwyddiad
Daeth y digwyddiad i ben
- Dyddiad
- Amser
- -
- Lleoliad
- Ar-lein
Ynglŷn â'r digwyddiad hwn
Nid gwasgfa economaidd dros dro yn unig yw’r argyfwng costau byw presennol, yn hytrach mae’n fater iechyd y cyhoedd hirdymor sy’n effeithio ar y boblogaeth gyfan. Gallai’r effaith ar iechyd a llesiant yng Nghymru gael ei roi ar yr un raddfa â’r pandemig COVID-19, a oedd eisoes wedi gwaethygu’r anghydraddoldebau presennol yng Nghymru. Mae’r argyfwng costau byw yn cael, a bydd yn parhau i gael, effeithiau eang a hirdymor ar anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.
Rhoddodd ein panel gwybodus o arbenigwyr drosolwg o:
- Y data diweddaraf am gostau byw yng Nghymru
- Effeithiau’r argyfwng costau byw ar iechyd yng Nghymru
- Meysydd gweithredu allweddol ar gyfer y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector yng Nghymru
- Pa ddulliau sy’n gweithio orau yn y tymor byr, canolig a hir
- Pa gymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan
- Sut y gall awdurdodau lleol ddefnyddio dull seiliedig ar wyddor ymddygiad
Roedd y siaradwyr yn cynnwys:
Manon Roberts – Uwch Swyddog Polisi, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Ben Saltmarsh – Pennaeth NEA Cymru
Judith Langdon – Rheolwr Arloesi Cyfiawnder Cymdeithasol, CLlLC
Alice Cline – Uwch Arbenigwr Newid Ymddygiad, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Dr Steffan Evans – Pennaeth Polisi (Tlodi), Sefydliad Bevan
Grace Robinson – Swyddog y Rhaglen Cyflogau Byw, Cynnal Cymru
Fideo digwyddiad
Cyflwyniad digwyddiad
Cymryd camau mewn perthynas â'r argyfwng costau byw yng Nghymru
, 11MB
Llawrlwytho - Cymryd camau mewn perthynas â'r argyfwng costau byw yng Nghymru (11 MB)
LlawrlwythoGwerthuso digwyddiad