Dylanwadu ar y Bwlch Iechyd: Safbwyntiau o nifer o wledydd
Gwybodaeth am y digwyddiad
Daeth y digwyddiad i ben
- Dyddiad
- Amser
- -
- Lleoliad
- Ar-lein
Ynglŷn â'r digwyddiad hwn
Cyflwynodd y gweminar hwn brofiadau a mewnwelediadau ar ddadansoddiadau dadelfennu’r fenter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd (HESRi), gyda thrafodaeth ymhlith nifer o wledydd ar ddulliau a chanfyddiadau (Cymru, yr Eidal a Slofenia). Mae’n sesiwn sy’n canolbwyntio ar ddatrysiadau, gan edrych ar y ffordd y mae defnyddio methodoleg arloesol dadansoddi dadelfennu wedi arwain at ddealltwriaeth o’r hyn sy’n ysgogi anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru a rhanbarthau eraill. Nod y gweminar oedd:
- Rhannu profiadau nifer o wledydd ar ddefnyddio’r fethodoleg dadelfennu a sut y gellir ei defnyddio fel offeryn i fesur tegwch iechyd
- Helpu i lywio gweithredu pellach o ran polisi ac atebion posibl er mwyn lleihau’r bwlch iechyd yng Nghymru a thu hwnt
- Cael dealltwriaeth ynghylch y camau nesaf
Dangosodd y panel sut y gall yr offeryn dadansoddi dadelfennu i fesur tegwch iechyd, a sut y gellir ei ddefnyddio i lywio gweithredu pellach o ran polisi ac atebion posibl er mwyn lleihau’r bwlch iechyd yng Nghymru a thu hwnt.
Cafwyd trafodaeth banel yn adeiladu ar y gwersi a ddysgwyd ac yn archwilio unrhyw gyfyngiadau ar y dadansoddi, ac i ddilyn, ceir sesiwn cwestiwn ac ateb ymhlith y cyfranogwyr.
Roedd y siaradwyr yn cynnwys:
CADEIRYDD: Jo Peden – Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Nadia Vimercati – Rhanbarth Lombardia, yr Eidal
Elizabeth Tamang – Cyfarwyddwr Meddygol, Adran Atal, Rhanbarth Veneto, yr Eidal
Luigi Palestini – Rhanbarth Emilia-Romagna, yr Eidal
Luigi Bertinato – Ysgrifenyddiaeth Wyddonol i’r Llywydd, Sefydliad Iechyd Cenedlaethol ISS, yr Eidal
James Allen – Prif Arbenigwr Cudd-wybodaeth Iechyd y Cyhoedd – Iechyd y Boblogaeth, Bryste, Gogledd Gwlad yr Haf a De Swydd Gaerloyw
Andrej Srakar – Cydymaith Gwyddonol, Sefydliad Ymchwil Economaidd, Ljubljana; Athro Cynorthwyol, Ysgol Economeg a Busnes, Prifysgol Ljubljana
Fideo digwyddiad
Cyflwyniad digwyddiad
Dylanwadu ar y Bwlch Iechyd: Safbwyntiau o nifer o wledydd
, 14MB
Llawrlwytho - Dylanwadu ar y Bwlch Iechyd: Safbwyntiau o nifer o wledydd (14 MB)
LlawrlwythoGwerthuso digwyddiad