Neidio i'r cynnwys
Loading Events

Mynd i’r afael ag annhegwch iechyd yng Nghymru: Llwyfan Datrysiadau Tegwch Iechyd Cymru

Gwybodaeth am y digwyddiad

Daeth y digwyddiad i ben

Dyddiad
Amser
-
Lleoliad
Ar-lein
Mynd i’r afael ag annhegwch iechyd yng Nghymru: Llwyfan Datrysiadau Tegwch Iechyd Cymru

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Ymunwch ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru a Sefydliad Iechyd y Byd Ewrop, sy’n lansio llwyfan arloesol newydd ar y we – Llwyfan Datrysiadau Tegwch Iechyd Cymru. Lluniwyd y llwyfan i fod yn adnodd i ddarganfod data a datrysiadau’n gysylltiedig â thegwch iechyd. Mae’n cynnwys dangosfwrdd data rhyngweithiol, fframweithiau tegwch iechyd a pholisi, ac astudiaethau achos rhyngwladol.

Bydd y llwyfan yn cefnogi ac yn cyflymu bywyd llewyrchus, iach, i bawb yng Nghymru ac yn cyfrannu at Lwyfan Datrysiadau Tegwch Iechyd Ewropeaidd. Rhoddodd y gweminar drosolwg o weithgareddau arfaethedig ar gyfer y dyfodol a rhoddodd gyfle i chi ddarganfod sut y gallwch chi gymryd rhan mewn cyd-gynhyrchu datrysiadau, datblygu astudiaethau achos a chyfrannu at ddysgu am weithredu seiliedig ar ddatrysiadau i leihau annhegwch iechyd.

Deilliannau Dysgu:

  • Dealltwriaeth o Lwyfan Datrysiadau Tegwch Iechyd Cymru a gwaith ehangach menter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd Cymru
  • Dealltwriaeth o’r ffordd y gallwch ddefnyddio’r llwyfan i lywio gweithredu seiliedig ar ddatrysiadau i leihau annhegwch iechyd.
  • Ymwybyddiaeth o waith y rhaglen yn y dyfodol a sut y gallwch gyfrannu

Cadeirydd:

  • Yr Athro Jo Peden, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Siaradwyr:

  • Sumina Azam, Cyfarwyddwr, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant, Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Christine Brown, Pennaeth Swyddfa Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Buddsoddi mewn Iechyd a Datblygiad, Fenis, yr Eidal
  • Nicola Evans, Pennaeth Anghydraddoldebau Iechyd a Chymunedau Iach, Llywodraeth Cymru
  • Mariana Dyakova – Ymgynghorydd yn Iechyd y Cyhoedd, Dirprwy Gyfarwyddwr ac Arweinydd Iechyd Rhyngwladol, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant, Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Dr Rebecca Hill – Cyfarwyddwr Rhaglen (Polisi Iechyd Cyhoeddus), Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Fideo digwyddiad

Cyflwyniad digwyddiad

Nicola Evans - Llywodraeth Cymru

PDF, 922KB

Llawrlwytho PDF - Nicola Evans - Llywodraeth Cymru (922 KB)

Llawrlwytho

Llwyfan Datrysiadau Tegwch Iechyd Cymru

PDF, 933KB

Llawrlwytho PDF - Llwyfan Datrysiadau Tegwch Iechyd Cymru (933 KB)

Llawrlwytho

Gwerthuso digwyddiad