Mynd i wraidd y broblem – Ymagwedd System Gyfan at Bwysau Iach yng Nghymru
Gwybodaeth am y digwyddiad
Daeth y digwyddiad i ben
- Dyddiad
- Amser
- -
- Lleoliad
- Ar-lein
Ynglŷn â'r digwyddiad hwn
Ydych chi wedi meddwl tybed beth yw ymagwedd system gyfan? A sut mae’r ymagwedd hon yn cael ei defnyddio yng Nghymru? Ymunwch â chydweithwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru a roddodd drosolwg o’r hyn a olygir gan y term Ymagwedd System Gyfan a sut mae’n cael ei ddefnyddio i gefnogi pwysau iach yng Nghymru. Disgrifiodd y gweminar y dystiolaeth, y cyd-destun strategol a’r dull naw cam ar gyfer ymagweddau system gyfan yng Nghymru. Trafododd y gweminar pam fod gweithio fel hyn yn wahanol i waith partneriaeth mwy traddodiadol.
Canlyniadau dysgu:
- Dealltwriaeth well o Ymagweddau System Gyfan a’r derminoleg gysylltiedig
- Gwybodaeth am gyd-destun strategol yr Ymagwedd System Gyfan at Bwysau Iach yng Nghymru
- Dealltwriaeth o’r dull 9 cam sy’n cael ei ddefnyddio yng Nghymru
- Clywed sut mae’r ymagwedd yn cael ei datblygu yng Nghymru gydag enghreifftiau ymarferol
- Gwybod sut i gael at ragor o wybodaeth.
Siaradwyr:
- Dr Ilona Johnson, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Sophia Bird, Prif Ymarferydd Iechyd Cyhoeddus Atal Gordewdra a Maeth, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae trawsgrifiad o’r fideo ar gael ar gais
Fideo digwyddiad
Cyflwyniad digwyddiad
Mynd i wraidd y broblem - Ymagwedd System Gyfan at Bwysau Iach yng Nghymru
PDF, 4MB
Llawrlwytho PDF - Mynd i wraidd y broblem - Ymagwedd System Gyfan at Bwysau Iach yng Nghymru (4 MB)
LlawrlwythoGwerthuso digwyddiad