Neidio i'r cynnwys
Loading Events

Plant a’r argyfwng costau byw yng Nghymru

Gwybodaeth am y digwyddiad

Daeth y digwyddiad i ben

Dyddiad
Amser
-
Lleoliad
Ar-lein
Plant a’r argyfwng costau byw yng Nghymru

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Plant a’r argyfwng costau byw yng Nghymru: Beth rydym yn ei wybod a beth rydym yn ei wneud amdano

Mae’r argyfwng costau byw yn cael effeithiau pellgyrhaeddol a thymor hir ar fywydau beunyddiol pobl yng Nghymru, a bydd hynny’n parhau, ond mae’n cael effeithiau penodol ar blant. Mae’r effeithiau hyn yn achosi pryder arbennig o ystyried sut mae profiadau o dlodi mewn plentyndod yn cael effeithiau negyddol hirhoedlog ar eu datblygiad a’u hiechyd a’u ffyniant yn y dyfodol. Mae mynd i’r afael â thlodi plant wrth wraidd dyfodol gwell a mwy cydnerth i Gymru ac mae’n flaenoriaeth ar gyfer mynd i’r afael ag anghydraddoldebau.

Roedd y gweminar hwn yn archwilio polisi, ymchwil ac ymarfer presennol yng Nghymru sy’n ceisio cefnogi plant a’u teuluoedd trwy’r argyfwng costau byw.

Siaradwyr

  • Manon Roberts, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Karen Hughes a Rebecca Hill, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Catherine Pape, Addysg a Gwella Iechyd Cymru
  • Amy McNaughton, Is-adran Gwella Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Sally Hunt a Dr Sam Clutton, Tîm Trechu Tlodi, Llywodraeth Cymru

 

Mae trawsgrifiad o’r fideo ar gael ar gais

Fideo digwyddiad

Cyflwyniad digwyddiad

Plant a'r argyfwng costau byw yng Nghymru

, 8MB

Llawrlwytho - Plant a'r argyfwng costau byw yng Nghymru (8 MB)

Llawrlwytho

Gwerthuso digwyddiad