Gofal Sylfaenol Gwyrddach: sut gall gofal sylfaenol a gofal yn y gymuned barhau â’r daith tuag at gynaliadwyedd amgylcheddol a sero net?
Gwybodaeth am y digwyddiad
Daeth y digwyddiad i ben
- Dyddiad
- Amser
- -
- Lleoliad
- Ar-lein
Ynglŷn â'r digwyddiad hwn
Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru – Ail-lansiad Blwyddyn 3
Fel gweithiwr proffesiynol ym maes gofal sylfaenol a gofal yn y gymuned, ydych chi’n poeni am effaith eich gwaith ar y newid yn yr hinsawdd neu, yn yr un modd, effaith y newid yn yr hinsawdd ar eich gwaith? Os ydych, ymunwch â digwyddiad ail-lansio Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru i ddysgu am y newidiadau ymarferol, syml y gallwch eu gwneud i’ch ymarfer o ddydd i ddydd, a fydd yn gwella’ch cynaliadwyedd amgylcheddol.
Deilliannau Dysgu:
- Golwg gyffredinol ar y berthynas rhwng y newid yn yr hinsawdd a gofal iechyd
- Cefndir i gyd-destun polisi a deddfwriaethol Cymru yn gysylltiedig â datgarboneiddio
- Trosolwg o Flwyddyn 1 a Blwyddyn 2 Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru
- Dealltwriaeth o sut i gofrestru eich practis a dechrau ar gamau gweithredu’r Fframwaith
- Beth sy’n newydd ar gyfer Blwyddyn 3
Mae trawsgrifiad o’r fideo ar gael ar gais
Fideo digwyddiad
Cyflwyniad digwyddiad
Gofal Sylfaenol Gwyrddach: sut gall gofal sylfaenol a gofal yn y gymuned barhau â'r daith tuag at gynaliadwyedd amgylcheddol a sero net?
PDF, 3MB
Llawrlwytho PDF - Gofal Sylfaenol Gwyrddach: sut gall gofal sylfaenol a gofal yn y gymuned barhau â'r daith tuag at gynaliadwyedd amgylcheddol a sero net? (3 MB)
LlawrlwythoGwerthuso digwyddiad