Effeithiau Newid Hinsawdd ar Iechyd yng Nghymru: Archwilio’r sylfaen dystiolaeth a nodi blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol
Gwybodaeth am y digwyddiad
Daeth y digwyddiad i ben
- Dyddiad
- Amser
- -
- Lleoliad
- Ar-lein
Ynglŷn â'r digwyddiad hwn
Mae Asesiad o’r Effaith ar Iechyd diweddar Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydnabod mai newid hinsawdd yw’r bygythiad mwyaf i iechyd a llesiant y bydd Cymru’n ei wynebu yn y ganrif hon. Bydd deall, paratoi ar gyfer effeithiau newid hinsawdd ar iechyd ac addasu iddynt yn faes allweddol i’r system iechyd a phartneriaid dros y degawd nesaf.
Mae nifer o adroddiadau wedi rhannu mewnwelediadau a gwybodaeth am effeithiau newid hinsawdd ar iechyd ond a oes gennym yr holl dystiolaeth sydd ei hangen arnom i wneud newid go iawn? Ble mae’r bylchau o ran ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth? Pa gwestiynau sydd angen i ni eu gofyn i sicrhau mai’r strategaethau a’r dulliau rydym yn eu defnyddio yw’r rhai mwyaf effeithiol?
Daeth y gweminar hon â thystiolaeth gyfredol ynghyd ar effeithiau newid hinsawdd ar iechyd ledled Cymru gan gynnwys adroddiadau diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae newid hinsawdd yn mynd i gael effaith sylweddol ar iechyd a llesiant yng Nghymru – cafwyd cyfnodau o dywydd eithafol yn fwy aml yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf ac maent wedi effeithio ar seilwaith, gwasanaethau a llesiant corfforol a meddyliol y boblogaeth. Mae angen tystiolaeth gadarn arnom i helpu’r sector iechyd i addasu i’r newidiadau hyn.
Canlyniadau Dysgu:
Bydd y rhai a fydd yn bresennol yn dod i ddeall y canlynol:
- effeithiau iechyd a llesiant newid hinsawdd yng Nghymru a’r risgiau a’r cyfleoedd ar lefel Cymru a’r DU
- y dystiolaeth bresennol ynghylch effeithiau newid hinsawdd ar iechyd
- yr angen am ddadansoddiad o fylchau ar draws pob agwedd ar ein hymateb i newid hinsawdd er mwyn sicrhau newid parhaol ac effeithiol.
Mae trawsgrifiad o’r fideo ar gael ar gais.
Fideo digwyddiad
Cyflwyniad digwyddiad
Effeithiau Iechyd Newid Hinsawdd yng Nghymru: Archwilio'r sylfaen dystiolaeth a nodi blaenoriaethau'r dyfodol
PDF, 1MB
Llawrlwytho PDF - Effeithiau Iechyd Newid Hinsawdd yng Nghymru: Archwilio'r sylfaen dystiolaeth a nodi blaenoriaethau'r dyfodol (1 MB)
LlawrlwythoNewid Hinsawdd yng Nghymru: Asesiad o'r Effaith ar Iechyd
PDF, 836KB
Llawrlwytho PDF - Newid Hinsawdd yng Nghymru: Asesiad o'r Effaith ar Iechyd (836 KB)
LlawrlwythoArchwilio effeithiau newid hinsawdd ar iechyd yng Nghymru
PDF, 3MB
Llawrlwytho PDF - Archwilio effeithiau newid hinsawdd ar iechyd yng Nghymru (3 MB)
LlawrlwythoGwerthuso digwyddiad