Datblygu Gwyliadwriaeth Hinsawdd ar gyfer Cymru: O Ddata i Weithredu
Gwybodaeth am y digwyddiad
Daeth y digwyddiad i ben
- Dyddiad
- Amser
- -
- Lleoliad
- Ar-lein
Ynglŷn â'r digwyddiad hwn
Mae heriau digynsail i’n hiechyd a’n llesiant o ganlyniad i newid hinsawdd, gan ei gwneud yn hanfodol deall ei effeithiau ac ymateb yn rhagweithiol iddynt. Yn y weminar hon, gwnaethom ymchwilio i rôl hollbwysig gwyliadwriaeth iechyd y cyhoedd yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd yng Nghymru.
Mae gwyliadwriaeth iechyd y cyhoedd yn hollbwysig wrth nodi, monitro a lliniaru effeithiau andwyol newid hinsawdd ar iechyd. Drwy gasglu a dadansoddi data, gallwn drosi gwybodaeth yn wybodaeth sy’n llywio’r gwaith o ddatblygu a gwerthuso polisïau cenedlaethol a strategaethau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i amddiffyn cymunedau a gwella gwydnwch.
Roedd y digwyddiad hwn yn arddangos y safbwyntiau diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru, gan bwysleisio sut mae gwyliadwriaeth iechyd y cyhoedd yn hanfodol i addasu i risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd a’u lliniaru.
Canlyniadau Dysgu:
- Pwysigrwydd gwyliadwriaeth iechyd y cyhoedd yn yr ymateb (lliniaru/addasu) i newid hinsawdd yng Nghymru.
- Rôl polisi cenedlaethol wrth fynd i’r afael ag effeithiau newid hinsawdd ar iechyd.
- Effaith tymheredd eithafol ar gyfraddau marwolaethau.
- Y cyfle i roi adborth a dysgu am gynlluniau Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer gwyliadwriaeth iechyd y cyhoedd yn yr ymateb i newid hinsawdd.
Siaradwyr:
Giri Shankar – Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Louisa Nolan, Pennaeth Gwyddor Data, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Behrooz Behbod – Epidemiolegydd Ymgynghorol, Y Ganolfan Wyliadwriaeth ar gyfer Clefydau Trosglwyddadwy, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Melissa Fallon – Epidemiolegydd (Arbenigwr Dadansoddi Gwybodaeth), Iechyd Cyhoeddus Cymru
Laura Andrews – Dirprwy Bennaeth Uwch-Ddadansoddeg a Modelu, Cyngor ar Wyddoniaeth a Thystiolaeth
Mark Humphrys – Is-adran Cyngor ar Wyddoniaeth a Thystiolaeth, Llywodraeth Cymru
Sarah Jones – Ymgynghorydd Diogelu Iechyd yr Amgylchedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Lisa Wise – Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Newid Hinsawdd ac Iechyd y Cyhoedd Amgylcheddol, Cyfarwyddiaeth Iechyd a Llesiant, Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru
Rebecca Masters – Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae trawsgrifiad o’r fideo ar gael ar gais
Fideo digwyddiad
Cyflwyniad digwyddiad
Datblygu Gwyliadwriaeth Hinsawdd ar gyfer Cymru: O Ddata i Weithredu
, 5MB
Llawrlwytho - Datblygu Gwyliadwriaeth Hinsawdd ar gyfer Cymru: O Ddata i Weithredu (5 MB)
LlawrlwythoGwerthuso digwyddiad